Caerdydd 2 Manchester United 2
Adroddiad Gwenda Richards
Roedd hi’n glasur o gêm? Nac oedd. Oedd hi’n gyffrous? Oedd – a diolch i beniad gan Kim Bo-Kyung yn y munudau olaf, fe naeth Manchester United dalu am beidio cymryd Caerdydd o ddifrif.
Nid perfformiad gan pencampwyr yr Uwchgynghrair a welwyd ar y cae ddydd Sul. Roeddwn i wedi disgwyl gweld ‘master class’ o bêldroed celfydd gan Man U ond yn lle roedd na basio llawn gwallau gan Cleverley a Fellaini ynghanol y cae ac amddiffyn gwan gan adael i Kim Bo sgorio’r gôl dyngedfennol ym munud cyntaf amser ychwanegol.

Frazier Cambell yn sgorio’r gyntaf i Gaerdydd
Chafodd amddiffynwyr y ddau dîm gêm foddhaol – pan fo Kim Bo a Patrice Evra, un o chwareuwyr lleia ar y cae, yn sgorio gyda’u pen, ma na rhwbeth o’i le. Gwelwyd eisiau Vidic a van Persie, oedd allan gydag anaf i’w goes.
Aeth Caerdydd i ymosod o’r eiliadau cyntaf, gyda Jordan Mutch bron â sgorio o gic gosb Peter Whittingham, ond aeth y peniad yn syth i ddwylo de Gea. Roedd Mutch yn ei chanol hi o fewn munudau ar yr asgell chwith pan gafodd ei gicio gan Wayne Rooney.

Rooney yn lwcus i aros ar y cae
Roedd Rooney yn lwcus na chafodd garden goch. Ond ar ôl chwarter awr fe aeth pas Turner ar gyfeiliorn ac fe sgoriodd Rooney ar ôl troi fel chwirligogan yn y cwrt cosbi.
Roedd David Marshall yn brysur gan arbed yn wych o beniad Marouane Fellaini a Chris Smalling. Cafodd Peter Odemwingie gyfle da ond aeth ei gic goes chwith ym mhell dros y bar.
Daeth gôl cyntaf Caerdydd o symudiad gwych ynghanol y cae – Whittingham i Mutch oedd yn cael rhwydd hynt rhwng ammdiffyniad a chanol cae Man U. Danfonodd y bêl yn gelfydd i draed Fraizer Campbell i sgorio’i drydedd gôl y tymor hwn.
Diffyg canolbwyntio gan yr amddiffyniad arweiniodd at gôl Evra reit ar hanner amser. Ond roedd Caerdydd ddim fel tase nhw yn barod i ildio.

Whittingham yn achosi trafferth
Yn yr ail hanner fe aeth pas gan Tom Cleverley i gyferiad Campbell a dim ond y postyn nath stopio’r Adar Gleision rhag dod yn gyfartal. Gyda phedair munud o amser ychwanegol roedd Man U yn meddwl, falle yn drahaus, y bydde nhw yn gallu cadw’r sgôr i’w plaid, ond unwaith eto o gic gosb Peter Whittingham fe neidiodd Kim Bo heibio pawb i sgorio er mawr rhyddhad i’r mwyafrif o’r 28,000 yn y Stadiwm. Ond roedd na mwy o gyffro i ddod. Daeth yr ‘hen ddyn’ Ryan Giggs ymlaen fel eilydd a dangos i bawb pam ei fod mor werthfawr i ‘r Red Devils. Pas wych ganddo i roi Rooney drwodd a dim ond tapio’r bel i’r rhwyd oedd angen ond fe basiodd y bel tu ôl i Wellbeck ac i ddwylo saff Marshall. Whew! Rhyddhad!
sylw ar yr adroddiad yma