Os ydych yn chi’n chwilfrydig ac eisiau dysgu am beth yn union yw fferm organig a diddanu’r plant ar yr un pryd yna mae fferm Slade yn Sant y Brid ger Penybont yn cynnal diwrnod agored ar Fehefin 7fed.
Mi fydd tywysydd o’r enw Tudur yn cynnal teithiau tywys yn Gymraeg am 11.15 am, 12.30, 1.30 a 2.30 pm. Mae’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys rasus percyll, gwau helyg, mynd i weld yr anifeiliad a sgyrsiau am y fferm. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael a reid ar y tractor am 50 ceiniog.
Mae’r fferm yn cynhyrchu cigoedd organig i’w prynu ac mae Polly Davies sy’ berchen y fferm yn dweud bod bocsys o gig yn gallu cael eu dosbarthu o fewn y Fro am ddim. Am fwy o wybodaeth ewch i www.sladefarmorganics.com.
sylw ar yr adroddiad yma