Pwy sy’n elwa o’r banciau bwyd?

19 Ebrill 2015

Gan Huw Onllwyn

Bum yn nofio yn ddiweddar, yn Bluestone (Sir Benfro).

Mae’n bwll nofio braf – a gan fy mod yn 82 mlwydd oed, rwy’n hoff iawn o’r ‘lazy river’ sydd yn eich galluogi i ‘nofio’ heb lawer o ymdrech.

Ond y tro hwn, roedd problem. Roedd y pwll yn weddol llawn – a pheth anodd oedd mynd heibio’r dorf o ‘nofwyr’ yn yr afon. Ar fy mhumed taith o’i amgylch, sylweddolais bod fy mhroblem yn deillio nid yn unig o’r nifer o ymwelwyr – ond hefyd o’r ffaith fod gymaint ohonynt yn….ahem….eithaf tew.

Pan oeddwn yn dysgu nofio, ym maddonau Guilford Crescent (trysor a gollwyd, diolch i ddiffyg gweledigaeth yr awdurdod lleol ar y pryd) roedd fy nghyd-ddisgyblion, fel finnau, yn denau. Fe fyddai unrhyw blentyn mwy…umm…tew, mor amlwg ac anghyffredin a nudist yn seiat Capel Salem.

Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae trigolion y Deyrnas Unedig yn…errrr…mynd yn dewach nag erioed.

Dyma ddywedir gan ein Cynulliad:

“Overweight (sic) and obesity in children represent serious public health problems in Wales. The rates of childhood obesity in Wales are the highest in the UK, with about 35 per cent of children (under 16 years old) being overweight or obese in 2011.”

Mae’r rhesymau, o bosib, yn amlwg. Mwy o brydau parod (yn llawn siwgr); mwy o ddiodydd megis J2O, Lucozade Sport a Red Bull (yn llawn siwgr); mwy o burgers (yn llawn braster) – a mwy o eistedd am oriau yn syllu ar berfeddion iPad.

A hefyd, wrth gwrs, mae bwyd yn rhatach heddiw nag a fuodd erioed. Edrychwch ar hwn, yn Newsweek: http://bit.ly/1xOYx1c

Mae’n esbonio:

“Food in the rich world is now cheaper than at any time in human history. It is cheaper in Europe than anywhere else, apart from the United States. Broadly, we in western Europe spend about half what we did, in terms of overall expenditure, on food compared with 30 years ago.”

Pam, felly, fod gennym gymaint o fanciau bwyd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig? Wel, dyma un theori….

Mae yna hen ddywediad ‘If you build it, they will come’ (wele’r ffilm, Field of Dreams, er enghraifft). Felly, os agorir banc bwyd sy’n cynnig bwyd am ddim, faint o syndod fydd e os aiff pobl yno, i ofyn am fwyd?

Ac, os oes modd cael bwyd am ddim, faint o demptasiwn fydd blaenoriaethu pleserau eraill bywyd, megis fags, booze, mobeil, Sky ac…ahem…ychydig o Red Leb, yn hytrach na llenwi troli mewn archfarchnad bendigedig, megis Lidl neu Aldi, sydd heddiw yn cynnig blodfresych am 39c a phwys o gaws am £1.99. Defnyddiwch hanner y caws, ‘chydig o laeth, blawd a menyn – a dyna chi bryd o fwyd i bedwar am £2.00. (Os gallwch godi oddi ar y soffa, diffodd Bargain Hunt a dod o hyd i’ch cegin).

Ac, wrth son am blodfresych, mae’n bryderus gweld mor afiach yw’r bwydydd a ddosberthir gan y banciau bwyd. Dyma rhestr siopa banc bwyd Caerdydd:http://bit.ly/1cKl2NV

Mae’n cynnwys eitemau megis “instant mash, sponge pudding, custard, sugar, biscuits, sweets (for children), chocolate and jam”. Tybed a oes agenda cudd gan y rheini sy’n trefnu hyn oll, i leihau bil lles y Deyrnas Unedig, drwy sicrhau trawiad y galon i bob un o’u cwsmeriaid?

Yn y cyfamser, wrth gwrs, dyma gyfle bendigedig i’r hunan-gyfiawn deimlo’n dda iawn, iawn am eu hunain, drwy gyfrannu eitemau i’w banc bwyd lleol. Tocyn i’r nefoedd, fel petai.

Ac, wrth gwrs, y trump card yw rhoi cyfle i bawb i ymosod ar y Llywodraeth (wele, er enghraifft, Jeremy Paxman a’i gwestiwn gyntaf i David Cameron yn ystod y cyntaf o’r dadleuon teledu cyn yr etholiad cyffredinol). [Bias alert: rwy’n siwr y gall unrhyw lywodraeth wynebu ‘weaponisation’ o’r banciau bwyd].

A dyma, rwy’n meddwl, yw fy mhroblem gyda banciau bwyd. Nid yn unig bod yr epidemic o dewdra a phris isel bwyd yn gwneud yr angen am eu bodolaeth yn amheus – ond eu bod hefyd yn cynnig cyfle arall i fagu diffyg gonestrwydd ym myd gwleidyddol y Deyrnas Unedig. Maent yn ateb problem nad sydd wir yn bodoli tra’n rhoi cyfle i wleidyddion a’r ‘chattering classes’ i gyfeiro atynt fel ‘tystiolaeth o lywodraeth sy’n methu’. Mae’n wleidyddiaeth afiach.

Felly, wrth wrando ar ein gwleidyddion cofiwch, da chi, yr hyn a ddywedwyd gan Lenin: ‘We can and must write in a language which sows among the masses hate, revulsion and scorn toward those who disagree with us.’

Ond fy mhrif broblem yw, unwaith eto, y diffyg sylw i’r ‘squeezed middle classes’, gan gynnwys trigolion Radur sydd wedi dioddef yn ofnadwy yn ystod y cyfnod o lymder. Mae’n hen bryd i ni dderbyn ychydig o gymorth.

Dyma alw, felly, ar ddarllenwyr Pobl Caerdydd i sefydlu:

a) banc diesel: fe fydd gorfod llenwi’r S-Type pob pythefnos yn ei wneud yn anodd iawn i mi fforddio fy city break ym Mharis yn ystod 2015.

b) banc gwin Bordeaux: mae pris hwn wedi codi’n aruthrol yn ddiweddar ac mae ‘na beryg y bydd rhaid i mi droi at gwinoedd megis Blue Nun.

c) banc sigars: mae Montecristio Double Edmundos bellach yn costio £480 am 25 sigar. Oes angen dweud mwy?

Felly, cofiwch amdanaf, os gwelwch yn dda. A byddwch hael.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Gadael Ymateb i Tyllgoed Diddymu ymateb

Tyllgoed yn dweud:

Sut gall rhywun fod mor haerllug, mor ignorant, mor dwp? Yn fy swydd fel gweithiwr cymdeithasol rwy’n ymweld a chartrefi ble mae’r waliau’n llifo gan law, ble does dim ffenestri, dim gwelyau, dim celfi. Pobl y bread-line yw rhain. Dim pobl Bluestone, dim pobl Sky, dim pobl dew chwaith. Pobl sy’n llwgu. Yn ein dinas ni.

Mae’n warthus bod Pobl Caerdydd yn rhoi llwyfan i rywun sy’n meddwl ei fod yn ddoniol ymosod ar y gwannaf yn ein cymdeithas. Ni fyddaf yn darllen y wefan hon eto oni cheir ymddiheuriad diamwys gan y golygydd yn ymbellhau ei hun oddi wrth yr haerllugrwydd hwn. Byddaf yn annog eraill i wneud yr un modd.

Er gwybodaeth rydym wedi rhoi cyfle i Tyllgoed ysgrifennu darn am ei phrofiad hi yn y ddinas ac ymateb i’r darn yma. Pobl Caerdydd.