gan Rhys Lloyd
Mae un o gogyddion mwyaf adnabyddus y brifddinas, Paj Jones, yn eich gwahodd i noson go arbennig yn Pizzeria Villagio, yr Eglwys Newydd, nos Fawrth, 26 Tachwedd o 7.00yh ymlaen.
Mae’r cogydd o Gaerdydd, a ddaeth i’r amlwg yn y 90au gyda Le Gallois ym Mhontcanna, wedi ymuno â Marco Palladino, perchennog y Pizzeria Villagio, i gyflwyno bwydlen unigryw o leiaf unwaith y mis.
Meddai Paj:
“Y syniad tu ôl i’r ‘Pop Up’ yw gwneud bwyd clasurol Eidaleg o Dde yr Eidal o lle mae tad Marco yn dod. Rwy’n cymryd syniadau o’r ardal honno ond yn eu paratoi a’u cyflwyno mewn ffordd bach yn fwy modern.”
Y gobaith yw cynnal rhagor o nosweithiau ‘Pop Up’ dros y flwyddyn nesaf.
Pris y noson yw £25 y pen am dri chwrs.
Pizzeria Villagio
73b Merthyr Road
Caerdydd CF14 1DD
029 2061 3110
sylw ar yr adroddiad yma