Yn ôl y cyfrif diwetha’ ma na tua 36,000 ohonom ni yng Nghaerdydd yn siarad Cymraeg, a’r mwyafrif dan 45 oed. Twr o bobl ifanc, egnïol (ai rhieni) sydd wedi arfer cael a rhannu gwybodaeth ar garlam – ar ffonau, tabledi a chyfrifiaduron a thrwy decstio ffrindiau a dilyn pobl y maen nhw yn eu hedmygu ac ymddiried yno
Ma ‘Pobl Caerdydd’ ar gyfer pob un ohonom ac ar gyfer pawb sydd ac unrhyw ddiddordeb mewn bywyd y ddinas. Dyma ffordd i ni rannu ei’n newyddion a’n profiadau o’r brif ddinas ac i drefnu dod at ein gilydd wyneb yn wyneb neu ar lein. Mae ‘na wefan, tudalen Facebook, ffrwd Trydar, sianel You Tube a linciau gyda’r Dinesydd print. Mae ‘na hefyd ffyrdd hawdd i bawb gyfrannu trwy Little J. Ni sydd bia Pobl Caerdydd a ni fydd yn dylanwadu ar sut y bydd yn edrych a swnio. Cychwyn menter yw hon ac fe fydd ei dyfodol yn ddibynnol ar eich cyfraniad chi.
Deilliodd y syniad o gynhadledd cawsom ni ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Ionawr i lansio Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd. Clywon gan arbenigwyr o bedwar ban byd am ddatblygiad rhwydweithiau newyddion lleol, am yr ymchwil diweddaraf a hefyd am sut i greu rhwydwaith yng Nghymru. Yn ein mhysg, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, oedd nifer o Bapurau Bro gan gynnwys y Dinesydd. I Bryan o bapur bro Caerdydd mae’r diolch am fachu ar y cyfle.
“ Sdim cliw da fi am y dechnoleg newydd ma”, medde fe “Ond ma raid symud ‘mlan, ac ma da chi rywbeth fan hyn!”
Ac wedi sawl paned a Twicsen yn ystafell ffrynt Bryan ac wedyn (wrth i ni gasglu diddordeb) peint yn y Chapter gyda chymorth Menter Caerdydd fe ddaeth pethau at ei gilydd.
Roedd y Brifysgol eisoes wedi ymroi i gefnogi mentrau newyddiadurol yn y gymuned gyda hyfforddiant, arweiniad cychwynnol a gwybodaeth arbenigol. Sali ac Emma sydd wedi trefnu a gweithredu yn y dyddiau cynnar.
Ond y cam mwyaf pwysig oedd gweld grŵp o wirfoddolwyr gyda’r ymroddiad a’r wybodaeth i fod yn asgwrn cefn I Bobl Caerdydd. Fe fydd Gwenda; Rhys a Rhydian yma i arwain gyda dros 40 o bobl eraill eisoes wedi troi mas i gynnig cefnogi a chyfrannu. Mae bywyd yng Nghaerdydd yn gyfoeth o straeon, delweddau, syniadau, barn a bwrlwm. Mae Pobl Caerdydd yn le i ni gyd rannu hynny.
sylw ar yr adroddiad yma