Mae Park Run Bychan Caerdydd wedi ysbrydoli criw o blant bach i godi arian i Ty Hafan.
Bob bore dydd Sul mae torf o blant yn ymgynull ar Gaeau Llandaf i gymeryd rhan yn Park Run Bychan Caerdydd (Junior Park Run).
Pan mae’r chwiban yn chwythu am 0930 y bore mae’r ieuenctid– sydd rhwng 4 a 14 oed – yn rhedeg 2km o amgylch y llwybrau sy’n arwain trwy’r parc.
Mae’r ras yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr ac am ddim i bawb sy’n cymeryd rhan, sy’n golygu ei fod yn ffordd wych i blant ar draws y ddinas i gael hwyl tra’n cadw’n heini.
Ymhlith y rhedwyr ieuengaf bob bore dydd Sul yw criw o ddisgyblion Ysgol y Berllan Deg.
Wedi cael eu hysbrydoli gan Park Run mae Tomos Williams, 5 oed; Osian Meese, 5 oed; Alex Lewis, 5 oed; a brodyr Osian ac Efan Crane, 7 a 5 oed; nawr yn ymarfer ar gyfer eu sialens nesaf – sef rhedeg 5km yn y Rainbow Run Cymru i godi arian i ysbyty plant Ty Hafan.
Mae’r ffrindiau yn rhedeg ymhob tywydd i ymarfer ar gyfer y ras mawr.
“Yn gynharach eleni dechreuodd Junior Park Run yng Nghaerdydd – mae ein plant wedi mwynhau pob munud, ac yn edrych ymlaen gyda chyffro i redeg bob dydd Sul.” Meddai Emma Williams, mam Tomos.
“Mae gweld ein plant yn rhedeg gyda gwên fawr ar eu hwynebau, yn gwneud i ni sylweddoli pa mor lwcus ydym i gael plant iach,” ychwanegodd “yn anffodus mae bywyd yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrth y plant sydd yn Ty Hafan yn llawer rhy gynnar.”
Mae’r bechgyn wedi ffurfio tîm Wrong Direction gyda’r nôd o godi dros £500 i elusen Ty Hafan. Os hoffech noddi’r bechgyn gallwch wneud yma ar eu tudalen codi arian.
sylw ar yr adroddiad yma