Gan Sara Mai Jones
Dydd Sadwrn – Ideas Festival – Ikea, Grangetown 11am-6pm
Mae Ikea yn cynnal gŵyl syniadau ddydd Sadwrn yma- cyfle i’r teulu oll fynd lawr i Ikea i fwynhau amrywiaeth eang o weithdai ac arddangosiadau, gydag awgrymiadau a syniadau ysbrydoledig ar sut i arbed ynni a dŵr, yn ogystal â sut i arbed arian! Mae gweithdai celf a chrefft wyrdd a gweithdai junkband i blant, ac i’r oedolion mae demo coginio a chyfle i flasu gwahanol fwydydd o Sweden yn yr adran gegin. Mae’r holl beth am ddim, felly beth ‘sgen chi’m byd i golli- ewch lawr am dro!
Dydd Sul – War Horse: Only Remembered – 4.30pm
Bydd Michael Morpurgo, sef awdur War Horse, yng Nghanolfan y Mileniwm i adrodd ei stori rymus a gwefreiddiol am y crwt Albert a’i annwyl geffyl, Joey, fel rhan o Ŵyl Llên Caerdydd eleni. Mi fydd yn berfformiad arbennig, gyda’r cerddorion adnabyddus, John Tams a Barry Coope, yn ymuno â’r awdur enwog i berfformio’r caneuon tanbaid a swynol a gyfansoddwyd gan John Tams ar gyfer cynhyrchiad rhagorol y National Theatre o War Horse.
NEU os ‘da chi awydd gig i orffen y penwythnos, mae Johnny Flynn yng Nghlwb Glee am 7.30yh, £15 am docyn.
Dydd Llun – Cwis yn Porters – 8pm AM DDIM
Mae ‘na lwyth o gwisus ymlaen yng Nghaerdydd pob wythnos, ac mae o’n job penderfynu weithiau pa un i fynychu. Beth am gwis Bar Porters nos Lun yma am 8pm? Mae’r cwis am ddim ac mewn lleoliad hyfryd, felly ewch gyda chriw i gael her fach ar nos Lun
Dydd Mawrth – Noson Gemau Retro yn Gwdihŵ – 8pm
Dwi’m yn siŵr iawn sut mai dim ond rŵan dwi’n clywed am y noson ‘ma- noson You Arcade Gwdihŵ, sef noson o gystadlu yn erbyn chwaraewyr eraill ar NES, N64, Playstation 1 a Sega Megadrive! Briliant! Dwi’n cofio cael Sega Megadrive gan Siôn Corn pan oni’n 5, a dyna ddechrau fy obsesiwn gyda gemau cyfrifiadurol. Fues i ‘rioed yn ffan o Playstation, ond mae Megadrive a N64 yn ddigon o reswm i fynychu’r noson anhygoel yma. £3 ydi mynediad i’r twrnament, a Street Fighter ‘di gêm y noson. Wel am hwyl.
Dydd Mercher – Orange Wednesdays – Spiderman 2
Dewis ffilm wythnos yma ydi Spiderman 2. Dwi’n licio ffilm fel hyn bob hyn a hyn, yn enwedig yn y sinema. Dyma’r ail ffilm Spiderman gyda’r hyfryd Andrew Garfield yn actio’r cymeriad eiconig, ac mae’r ffilm yn edrych yr un mor epig a’r ffilm gyntaf! Edrych ‘mlaen!
Dydd Iau – Gig Ymgyrch Tag
Ma’ hi di bod yn wythnos brysur, felly beth am chill bach nos Iau ia? Neu os ‘da chi dal llawn egni, ewch draw i Glwb Cymdeithasol Lyndon yn Grangetown i Gig Ymgyrch TAG i wrando ar Cian Ciaran, DJ’s Peski a Cotton Wolf. Mae’r noson yn cychwyn am 7.30, £5 mynediad.
A dyna ni am wythnos yma.
sylw ar yr adroddiad yma