Mae ‘na lwyth o gerddoriaeth wych ymlaen yng Nghaerdydd wythnos yma, a’r sialens fawr ydi penderfynu pa gig i fynd iddopenwythnos. Mae Sara Mai Jones yn bwrw golwg dros rai o ddigwyddiadau all fod o ddiddordeb i chi.
Dydd Mawrth: Who’s Afraid of Rachel Roberts? Sherman Cymru, 8yh £14, Dan 25: Hanner pris
Dyma stori unigryw a chyfareddol am fywyd rhyfeddol a dawn aruthrol Rachel Roberts, sy’n datblygu o fod yn ferch swil i weinidog y Bedyddwyr i feddwyn rhemp a chegog. Drama am fenyw a gafodd ac a gollodd bopeth. Cafodd y ddrama hon ei berfformio yng Ngŵyl Caeredin eleni, ac mae perfformiad Helen Griffin yn cael ei ganmol yn fawr iawn. Mwy o wybodaeth yma.
Dydd Mercher: Cwpwrdd Nansi, Look Out Bar, Bae Caerdydd – 7yh, £5
Mae Cwpwrdd Nansi wedi ffeindio lleoliad go arbennig ar gyfer eu gig Mis Medi – bydd y noson yn cael ei gynnal yn y Look Out Bar ym Mae Caerdydd. Os nad ydych chi wedi bod yna o’r blaen, mae’n lleoliad bendigedig – golygfa anhygoel, bwyd blasus a staff hapus a chyfeillgar. Bydd cerddoriaeth hyfryd i gyd-fynd a naws y lleoliad, gyda Siddi a Kizzy Crawford yn perfformio. Mwy o wybodaeth yma.
Dydd Iau: Dwi’n meddwl mai cael chill bach cyn y penwythnos ‘sa orau nos Iau, ond os ydych chi eisiau mynd am dro, beth am fynd i Clwb Ifor i wylio R.Seiliog? Does ‘na’m llawer o ffilmiau werth eu gweld ymlaen yn y sinema wythnos yma chwaith, ond os ydych chi’n ddyn neu’n ffan o Chris’ Thor’ Hemsworth, beth am fynd i wylio ‘Rush’ yn Cineworld?
Dydd Gwener: Dathlu 5ed Pen-blwydd Clwb y Diwc, 8yh – £10 (£15 am docyn penwythnos)
Mae Clwb y Diwc yn dathlu eu 5ed pen-blwydd penwythnos yma, gyda nosweithiau o gerddoriaeth byw nos Wener a nos Sadwrn. Yn perfformio ar y nos Wener bydd Al Lewis Band, Gwyneth Glyn a Greta Isaac, a bydd yr anhygoel Huw Stephens yn DJio! Mae’n siŵr o fod yn noson gwerth chweil. Mae tocynnau ar gael o Caban, neu drwy ffonio 02920 342223.
Dydd Sadwrn: Gig Clwb Ifor Bach/Dathlu 5ed Pen-blwydd Clwb y Diwc
Mae nos Sadwrn yn dipyn o benbleth o ran lle i fynd! Un ai am y clwb i wylio Yr Ods, Gwenno ac Y Pencadlys, neu am ail noson pen-blwydd Clwb y Diwc, gyda Jess, Jessop a’r Sgweiri, Castro a Richard Rees yn perfformio. ‘Dw i wrth fy modd gyda stwff newydd Yr Ods, ond mi oedd gig Jessop a’r Sgweiri yn Nhafarn y Guild yn un o uchafbwyntiau’r ‘Steddfod i mi, felly jans bydd raid i mi fynd i weld nhw’n fyw unwaith eto. Mae tocynnau Clwb Ifor ar gael yma neu mae tocynnau Clwb y Diwc ar gael o Caban.
Dydd Sul: NOSON CLWB Moving In Pyjama Party! Gwdihŵ, 8yh – AM DDIM
Os ydych chi’n fyfyriwr newydd yng Nghaerdydd, beth am fynd draw i Gwdihŵ nos Sul am barti yn eich pyjamas! Cyfle gwych i gwrdd â myfyrwyr eraill, a phwnsh am ddim am os ydych chi’n gwisgo eich pyjamas. Felly os oes gennych chi onesie bach yn cuddio yn eich cwpwrdd, dyma esgus gwych i’w wisgo. Mwy o wybodaeth yma.
Felly dyna fy mhigion i am yr wythnos. Dwi’n siŵr bod nifer o bethau eraill ymlaen yn ogystal, felly os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill, peidiwch ag oedi cyn cysylltu! @SMaiJones
sylw ar yr adroddiad yma