Yn rhifyn mis Chwefror o’r Dinesydd, yn ogystal â’r cyfraniadau rheoliadd a’r adroddiadau oddiwrth yr eglwysi, yr ysgolion a’r cymdeithasau, ceir:-
- Cofio John Albert Evans – addysgwr a chymeriad hwyliog ac annwyl. Darllenwch ddau deyrnged iddo yn dadlennu agweddau gwahanol iawn o’i fywyd ei gymeriad a’i waith gan Cenard Davies a John Walter Jones.
- Cawn ddau deyrnged hefyd gan Glyn O Phillips a Neville Evans i’r gwyddonydd Dr R Elwyn Hughes a wnaeth ymysg amryw o bethau eraill waith arloesol ar Fitamin C.
- Hanes achub cronfeydd dŵr Llysfaen a Llanisien ar ôl blynyddoedd o frwydro.
- Dathlu ordeinio gweinidog newydd yn Eglwys y Crwys – y Parch Aled Huw Thomas
- A holi Dr Dylan Jones – cyn Brifathro Ysgol Bro Morgannwg – sydd bellach yn Ddeon Addysg Prifysgol y Drindod Dewi Sant.
Hyn, a llawer mwy – yn Y Dinesydd newydd ac yn www.dinesydd.cymru.
sylw ar yr adroddiad yma