Yn rhifyn Rhagfyr / Ionawr o’r Dinesydd cewch ddarllen:
- llwyddiant dwy ferch ysgolion cynradd yn y ddinas a chriw o fechgyn ifanc
- camp nodedig gŵr 78 oed wrth godi arian at wahanol elusennau
- hanes Côr CF1 yn cyrraedd rownd derfynol
- brodor o Gwm Gwendraeth yn trafod dulliau trin canserau yn y Gymdeithas Wyddonol
- Gwilym Roberts yn bwrw golwg yn ôl dros ddigwyddiadau’r flwyddyn
- Beti George, yn ei cholofn Whalu Meddilie, yn cwrdd â phobl ddiddorol
- Hannah Bishop, perchennog siop yn Rhiwbeina, yn cael ei holi gan Falmai Griffiths yn ei cholofn Nabod Ein Pobol, a Lowri Cooke, yn Cerdyn Post, yn holi Sara Bines, athrawes ysgol gynradd yn Doha, Qatar
- digwydiadau amrywiol y Mentrau Iaith
- Y Cylch Cinio yn ffarwelio â Churchill’s
- a Lowri Cooke, yn ei cholofn, Bwytai Merch y Ddinas yn mwynhau pryd arbennig o fwyd
Hyn a llawer mwy yn y Dinesydd cyfredol. I weld ble gallwch brynu copi o’r Dinesydd, neu i danysgrifio, ewch i’r wefan – www.dinesydd.com
sylw ar yr adroddiad yma