Bryan James sy’n crynhoi beth sydd yn rhifyn mis Medi
Fel y byddech yn disgwyl, mae rhifyn Medi o’r Dinesydd yn llawn lluniau a sôn am lwyddiant ein ‘dinasyddion’ yn y Genedlaethol ym Meifod – yn cynnwys nifer o brif wobrau’r Ŵyl.
Mae’r Dinesydd ei hunan, hefyd yn dathlu llwyddiant, sef cyrraedd carreg filltir cyhoeddi’r 400fed rhifyn! Mae Cyfarchion Gwilym ac Eirian Dafydd i’r Dinesydd, ynghyd â chartŵn clyfar Cen Williams yn ymddangos mewn lle arall yng ngholofnau Pobl Caerdydd.
Ond byddai’n werth i chi hefyd edrych ar erthygl arbennig gan yr Athro Wyn James, ‘Y Gwaedlif i Gaerdydd’. Mae’n rhoi darlun positif iawn o sefyllfa’r Gymraeg yng Nghaerdydd, ac yn codi sawl cwestiwn diddorol, yn cynnwys a oes yna obaith i sefydlu’r Gymraeg yn iaith gymunedol yn y brifddinas, a beth yw rôl y Dinesydd ac Eisteddfod 2018 yn hyn o beth.
Mae toreth o bytiau bach blasus yn y rhifyn. Wyddech chi fod Ceiri Torjussen (Melin Gruffydd a Glantaf gynt) yn gwneud enw iddo’i hun fel cyfansoddwr cerddoriaeth ffilmiau yn LA – ac mai ei brosiect nesaf yw ffilm am Joe Calzaghe?
Ac wedyn dyna hanes Alun Simpson yn y golofn Cerdyn Post o Tokyo, a chyfweliad Falmai Griffiths gyda Beti Davies, mam Wyre Davies y gohebydd enwog, yn ei cholofn Nabod Ein Pobol.
Ydyn, mae’r hanesion arferol yma – o’r cymdeithasau a’r clybiau chwaraeon, y capeli a’r ysgolion – ac ambell un ychwanegol y tro hwn, fel llwyddiant myfyrwyr o Gaerdydd a’r Fro yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
O ie, a phwy yw’r Caerdogion? Dyna un newydd!!
A fyddech chi’n hoffi gweld copi llawn o’r Dinesydd ar-lein? Cysylltwch â Huw Jones ein prif ddosbarthwr ar huwgybuw@aol.com neu ewch i Y Dinesydd.
sylw ar yr adroddiad yma