Mae rhifyn mis Rhagfyr/Ionawr o’r Dinesydd ar werth nawr, ac ynddo gallwch ddarllen mwy am:
- Pennod newydd i’r Gymraeg yng Nghaerdydd, gydag agoriad y ganolfan Gymraeg yn yr Hen Lyfrgell. Gallwch ddysgu am bartneriaid y project, ac am y crèche fydd yn agor ddiwedd mis Ionawr;
- Y newyddion diweddaraf ar y gwaith atgyweirio yng Nghwrt Insole;
- Adroddiad Michael Jones ar flwyddyn “drychinebus” yn hanes addysg Gymraeg yn y ddinas;
- Y colofnau arferol gan GR, Beti George, Lowri Cooke a Glyn Wise, yn ogystal â Cherdyn Post o Doha gan Rhodri Ogwen Williams, a chyfweliad gyda Sioned Bryant;
- A’r adroddiadau arferol o gapeli a chymdeithasau’r brifddinas.
Ac os byddwch chi wedi cael digon o wylio’r teledu dros y gwyliau, beth am roi cynnig ar groesair Y Dinesydd
Hyn, a mwy – llawer mwy – yn Y Dinesydd newydd ac yn www.dinesydd.cymru.
sylw ar yr adroddiad yma