Adolygiad o bryd yn Pier 64, Marina Penarth gan Rhidian Dafydd
Ar yr 16eg o Fehefin 2013 es i mas gyda’r teulu i Pier64 am ginio i ddathlu Sul Y Tadau. Bwyty, bar a thŷ stecen ydyw lawr ym marina Penarth, lleoliad delfrydol o ystyried y tywydd braf cawsom ni.
Gyda Francis Dupuy ( yn gynt o Le Gallois) wrth y llyw mi oeddwn i’n disgwyl bwyd o safon uchel . Cynyddodd y disgwyliad eto wedi i mi weld prisiau rhai o’r prydiau!
Ar ôl diod wrth y bar ces i gyfle i edrych ar y fwydlen. Roedd yna ddigon o amrywiaeth gyda physgod, saladau a chigach.
Gyda ni’n dathlu Sul Y Tadau a Pier 64 yn dŷ stecen, ces i’r Chateaubriand am bris digon rhesymol o £49.95 (rhwng 2).
Mi oedd ansawdd y cig yn wych ac roedd wedi’i goginio’n berffaith (gwaedlyd). Mi oedd y llysiau’n wych hefyd: Llysiau gwyrdd al dente; tatws dauphinoise cyfoethog ond yn gweithio’n dda gyda chig gyda chyn lleied o fraster; a saws gwin coch yn berffaith gyda’r Chateaubriand.
Mi oedd y pryd yn wych a gwnes i fwynhau pob un elfen. Y gost yw’r unig beth sydd yn gwneud i mi feddwl ddwy waith cyn dychwelyd. Mi oedd y Chateaubriand yn rhesymol ond gyda phopeth arall: llysiau gwyrdd â menyn £3; tatws dauphinoise £3; foie gras £7.95; a saws gwin coch £2, dwi’n talu £41 am brif gwrs, heb son am win, dŵr na phwdin!
Mae’n werth nodi bod prydiau eraill ar gael sydd llawer rhatach ac hefyd bod yna fwydlen sy’nbenodol at amser cinio sy’n cynnig 2 gwrs am £12.95 a 3 cwrs am £15.95.
Nid y fi oedd yn talu felly o ni’n mwy na hapus dewis ffondant siocled gydag hufen iâ fanila (£5.95) am bwdin. Mi oedd hwn yn berffaith. Sbwng yn ysgafn a gwaead y siocled poeth melfedaidd yn llifo ar ôl i mi ei dorri. Gydag ychydig o’r hufen iâ roedd e’n ddiweddglo bendigedig i’r pryd – heb fod yn rhy felus chwaith.
Gyda gwin Cotes du Rhone 100% Grenache Julien Mus (£24.95) ac espresso ddwbl am £3.75 mi fydde fe wedi bod yn rhatach i mi gael cinio ym mwyty Alain Ducasse at the Dorchester – ac mae 3 seren Michellin ‘da nhw!
Er gwaetha’r gost, mae Pier 64 yn fwyty arbennig o dda sy’n creu bwyd o ansawdd, a dwi’n edrych mlaen cael bwyta yno eto, ond byddai siwr o fod yn archebu prydiau sy’n rhatach.
sylw ar yr adroddiad yma