Perfformiad i’w gofio gan Wet Wet Wet a Blue

8 Hydref 2013

Y band Blue fydd gwesteion arbennig Wet Wet Wet pan ddewn nhw a’u taith ‘Greatest Hits’ i’r Motorpoint Arena yng Nghaerdydd ar 10fed Rhagfyr eleni.

Dywedodd Marti Pellow, canwr Wet Wet Wet: “Mae Blue yn wych a ry’dyn ni’n falch iawn eu bod wedi derbyn ein gwahoddiad i ymuno â ni ar y daith. Mae ein ffans yn mynd i gael noson wych.” Blue - Press Photo

Ychwanegodd y drymiwr, Tommy Cunningham: “Mae llwyddiant Blue yn siarad dros ei hun. Ma’ nhw wedi cael llwyth o ganeuon llwyddiannus, felly yn ogystal â ni’n perfformio cyfres o’n hits mwyaf poblogaidd mae’r fans yn mynd i gael sioe wych.”

Dwedodd Blue: “Rydym wedi bod yn gefnogwyr mawr o Wet Wet Wet ers iddyn nhw ryddhau ‘Love is All Around’ felly rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ymuno â nhw ar y daith.

“Edrychwch allan am holl hits Blue yn ogystal â chaneuon newydd sbon o’n halbwm newydd, Roulette. ”

 

Mae tocynnau ar gael nawr o swyddfa docynnau’r Motorpoint Arena ar 02920 22 44 88.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma