DJs, dathlu a dawnsio yn y ddinas

13 Chwefror 2014

Unodd cannoedd o bobl i ddathlu penblwydd arbennig Time Flies
Adolygiad gan Sue Jenkins

Daeth dros 600 o bobl ynghyd i ddathlu ugain mlynedd o fodolaeth Time Flies yn Solus, Prifysgol Caerdydd a chreu hanes ym myd clybio Cymru. Yr oedd  Solus yn leoliad ardderchog i fwynhau noson anhygoel o ddawnsio, dal i fyny â hen ffrindiau a hel atgofion. Chwaraeodd y DJs bopeth oedd y dorf am eu glywed, gydag alawon tŷ clasurol aeth a ni yn ôl ugain mlynedd.

Yr oedd y llawr dawnsio yn llawn o glwbwyr yn gwneud yr un symudiadau ag y gwnaethent ugain mlynedd yn ôl. Yr oedd pawb yno i ddathlu digwyddiad nodedig a sgwrsio am mor bleserus oedd achlysuron Time Flies bob amser, a sut y byddent yn edrych ymlaen at yr un nesaf. Mae Time Flies wedi dod a ni yn ôl at ein gilydd ac hefyd yn rhoi cyfle i genhedlaeth newydd o glwbwyr i flasu’r profiad yr ydym ni wedi profi dros gyfnod o ugain mlynedd. Mae’n noson lle gallwch fynd ar eich pen eich hun, yn gwpl neu mewn grwp o ffrindiau.

Mae tocynnau ar werth yma i’r parti nesaf, sy’n cael ei gynnal yn yr un lleoliad ar nos Sadwrn, Mawrth 29fed

TIMEFLIEStimeline

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma