Bydd drama newydd Theatr Genedlaethol Cymru yn dod i’r Sherman fis hyn- ac fe all Cymry di- Gymraeg fwynhau’r perfformiad hefyd drwy ddefnyddio Ap arloesol o’r enw Sibrwd.
Pan Oedd y Byd yn Fach, yw enw drama newydd gan Siân Summers wedi ei chyfarwyddo gan Aled Pedrick, ac fydd ar daith yn ystod Mai a Mehefin 2015.
Bydd Sion Ifan yn dychwelyd i weithio gyda’r cwmni yn dilyn taith ddiweddar Y Fenyw Ddaeth o’r Môr ac yn ymuno ag e fydd Dyfed Cynan, Ceri Murphy a Berwyn Pearce – ill tri wedi gweithio ar gynhyrchiadau i’r cwmni yn y gorffennol. Yn cwblhau’r cast fe fydd Gareth Pierce, sy’n gweithio i’r cwmni am y tro cyntaf.
Mae’r ddrama wedi ei gosod yn ystod cyfnod Streic y Glowyr yn 1984, a gyda’r streic yn ei hanterth, mae’r esgid yn gwasgu a thensiynau’n uchel wrth i rai ddychwelyd i’r pwll.
Mewn llecyn tawel ymhell o gythrwfl y llinell biced, daw criw o fechgyn ynghyd yn gynnar un bore i ddangos eu cefnogaeth. Ond nid pawb sy’n cael croeso yno y bore hwn, ac mae un weithred dreisgar, ysgytwol yn newid eu bywydau am byth.
Fe fydd Sibrwd, ap newydd fydd yn sibrwd yn eich clust i dywys siaradwyr di Gymraeg drwy’r ddrama ar gael yn ystod y perfformiad. Mwy o fanylion yma
Meddai Aled Pedrick, Cyfarwyddwr Pan Oedd y Byd yn Fach;
” Dyma stori sydd yn agos iawn at fy nghalon i, fel un sydd wedi ei fagu yng Nghwm Tawe ac yn fab i lowr. Cefais fy ngeni yn fuan wedi i’r streic ddod i ben ac roeddwn i yn ymwybodol yn ifanc sut y cafodd fy nghymuned ei heffeithio. Mae Siân wedi ysgrifennu sgript arbennig ac mae’n fraint i mi fod yn gweithio gyda’r cast yma, y tîm creadigol anhygoel a gyda’r cwmni.”
Mae’r tîm creadigol yn cynnwys; Cordelia Ashwell (Cynllunydd), Tim Lutkin (Cynllunydd Goleuo), Tom Recknell (Cyfansoddwr), Dyfan Jones (Cynllunydd Sain), Polly Bennett (Cyfarwyddwr Corfforol), Nia Lynn (Hyfforddiant Llais) a Kevin McCurdy (Cyfarwyddwr Ymladd).
Theatr y Sherman, Caerdydd
19- 21 Mai 7:30pm
www.shermancymru.co.uk / 029 20 646 900
sylw ar yr adroddiad yma