Gan Gwenda Richards
“We’re only sayin’ you’re doing fine Oklahoma! Oklahoma, OK”, medd y gân, ond dwi am fynd gam ymhellach a dweud mae’r sioe gerdd ‘Oklahoma’ yng Nghanolfan y Mileniwm yn well nag Ok – ma fe’n arbennig o dda.
O’r gân agoriadol “Oh what a beautiful morning” i’r diweddglo gyda’r cast cyfan yn canu”Oklahoma” , ma cynhyrchiad yma yn llwyddo i gyflwyno holl ystod sioe gerddorol- yr uchafbwyntiau llawen a’r mannau du- yn gelfydd – ac mae’n llawn hwyl hefyd.
Mae’n help bod y caneuon gan Richard Rodgers ac Oscar Hammerstein yn gyfarwydd iawn, ond roedd lleisiau arbennig y cast yn enwedig Ashley Day fel ‘Curly’ a Nic Greenshields fel Jud Fry yn dod a ffresni i’r cynhyrchiad diolch i’r cyfarwyddwr cerdd Stephen Ridley.
Mae’r ddrama wedi’i seilio yn 1907 yn Nhiriogaeth yr Indiaid ar drothwy cyfnod cythryblus pan gafodd y dalaith newydd ei sefydlu. Ond heblaw am yn yr ail hanner gyda’r ffermwyr (sef yr Americaniaid brodorol a’r ymsefydlwyr newydd) a’r cowbois yn ffraeo, prin yw’r cyfeiriad i’r drwgdeimlad oedd yn bodoli rhyngddyn nhw ynglyn âg hawliau tir.
Mae matriarch y pentref Aunt Eller (Belinda Lang) yn dod â’r clatsho i ben drwy- wel beth arall ond drwy danio reiffl uwchben y sgarmes. Wedyn mae’n arwain pawb dan ganu “The Farmer and the Cowman (should be friends)’.
Na, nid gwleidyddiaeth ond natur cariad yw hanfod Oklahoma. Mae nith Aunt Eller, Laurey (Charlotte Wakefield) yn ffansio Curly ag ynte yn ei ffansio hi- ond yn nhraddodiad pob drama ers dyddiau’r arth a’r blaidd- neu falle y bison – ma nhw’n ffugio bo dim diddordeb da nhw yn ei gilydd. Nawr dwi wastod yn ffindio’r agwedd hon sy’n amlygu’i hun mewn dramau rif y gwlith, yn anodd i gredu.
Ma Curly yn ‘hot’- yn gowboi gwych, yn sensitif (gweler ‘Oh what a beautiful mornin’) ac yn hync- beth yn y byd sy’n mynd trwy pen Laurey? Yn lle lasoo- io Curly a’i glymi’n dynn am ei chanol fel bydden i a phob merch llawn llathen arall wedi gwneud – ma hi’n addo mynd a’r cawr o was fferm Jud i’r ddawns y noswaith ‘ny. Ymmmmm???…. ond na fe. Dyma be sy’n neud hon yn ”ddrama” ac nid bywyd go iawn.
Ta beth mae Jud yn gymeriad llawer mwy cymhleth na jest lwmpyn syml. Mae’r olygfa rhwng Jud a Curly yn stafell wely llwm Jud yn y Smokehouse yn un o uchafbwyntiau’r sioe i fi. Lleisiau gwych y ddau yn cyfuno i gyfleu comedi du ar ei orau yn y gân ‘Pore Jud is Daid’.
Cymeriad lliwgar arall yw’r pedlar Ali Hakim. Perfformiad campus gan Gary Wilmot gyda digon o gomedi heb fynd dros ben llestri yn enwedig pan oedd yn gorfod cadw’r nwydus Ado- ‘I cain’t say No’- Annie (perfformiad doniol gan Lucy May Barker) lled braich i ffwrdd.
Gyda chanu a dawnsio egniol yr ensemble , mae’r cynhyrchiad yn un i godi’r galon. Mae’n un o glasuron Rogers and Hammerstein ac roedd yn un chwyldroadol ar y pryd gan ddefnyddio caneuon i yrru’r stori ymlaen. Ac yn ddrama gerdd ddadleuol hefyd gan ddod a ffantasiau rhywiol a chreisus glasoed at sylw cynulleudfaoeddd y pedwardegau. Ond peidiwch a phoenu- mae’n sioe i’r teulu cyfan.
I fynd nol at y gân gafodd ei mabwysiadu fel anthem ‘swyddogol’ y dalaith yn 1953, “A yipee- i -o -ee -ay. Yeow!
Mae’r cynhyrchiad ymlaen yng Nghanolfan y Mileniwm tan Orffennaf 11. Am fwy o fanylion a thocynnau ewch i’r wefan.
sylw ar yr adroddiad yma