Oes gennym ni ormod o ddillad ?

15 Gorffennaf 2014

Mae Huw Onllwyn wedi bod yn considro beth i wneud gyda’i hen ddilad ar ôl gwylio rhaglen deledu This World: the Secret Life of Your Clothes (BBC 2: 15 Gorffennaf).

Mae gennyf lond garej o hen deganau, hen ddillad, hen feics bach fy mab, a deunydd amrywiol nad oes eu hangen arnom, bellach.

Bues yn eu gwerthu mewn cae braf, ger y mor yn Sili, yn eistedd wrth yr arddangosfa ar fy ‘pasting table’, ochr yn ochr â zillions o car-booters eraill. Codais £70. Ond talais £7 i fod yno. £10 ar coke a byrger – ac fe brynodd fy mab degan enfawr am £5. Gyda chost y petrol, rwy’n credu i mi wneud elw o £45 am 6 awr o waith. A bu rhaid i mi godi am 6am i fod yno erbyn 7am. (Pwy ddiawl yw’r bobl ‘ma sy’n mynd i car boot sale am 7am ar fore dydd Sul? Get a life!)

Troi wedyn at ebay. Llawer gwell! Rwy’n derbyn gwell pris am bopeth – a ‘does dim rhaid i mi eistedd mewn cae am oriau. Os ewch yno nawr, gallwch roi cynnig i mi am bob math o bethau diddorol a defnyddiol.

Rwy’n ffond iawn o’r arian sy’n dod i’m llaw – ac yn mwynhau ei wario ar bethau newydd. ‘Rwyf hefyd yn hapus i wybod fod yr hen bethau ‘ma’n mynd at rywun lleol sydd eu hangen ac sydd am eu cael. Ail-gylchu gwych iawn.

Fe fydd rhai ohonoch, fodd bynnag, am fy nghyhuddo o fod yn farus – a cholli cyfle i gynnig yr hen bethau (y dillad, yn enwedig) i ryw siop elusen, yn lle codi arian i fi fy hun.

Diddorol, felly, oedd gwylio The Secret Life of Your Clothes (BBC2 ar 14 Gorffennaf) gyda Ade Adepitan yn teithio i Ghana i weld beth yw’r effaith a geir yno, wrth i ni fynd â’n bagiau o hen ddillad i’w gadael ar y palmant tu allan i siopau Oxfam, ac elusennau eraill.

Mae’r rhaglen i’w gweld ar iPlayer am ychydig (http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b04b75rd/this-world-the-secret-life-of-your-clothes) ac mae’n werth ei wylio.

Plot spoiler: mae’r hyn sy’n dilyn yn grynodeb o gynnwys y rhaglen.

Y peth cyntaf i ni ei sylweddoli yw mai dim ond canran fach o’r dillad a rhoddir i’r siopau elusen sy’n cael eu gwerthu yn y siopau. Mae’r gweddill (dros 85% o’r dillad) yn cael eu gwerthu i gwmnïau ailgylchu am £500 y dunnell. Mae’r cyfan yn mynd ar gefn loriau i Affrica – ac i Ghana yn bennaf. Mae’r wlad honno’n mewnforio 30k tunnell o ddillad ail-law bob blwyddyn.

Dillad o Brydain yw’r brif ffynhonell gan mai ni, mae’n debyg, sy’n prynu’r rhan fwyaf o ddilad rhad – ac yna cael eu gwared ar ôl blwyddyn gan fod y ffasiwn yn newid. ‘Rydym yn gwario £60 biliwn y flwyddyn ar ein dillad – ac maent yn rhatach nag y buont erioed, diolch i blantos bach Pakistan sy’n gweithio’n galed i’w creu.

Yn Ghana, fe’u gelwir yn ‘dead white man’s clothes’. Ac ers tua 20 mlynedd, mae’r wlad yn boddi mewn dillad ail-law.

Go debyg pan fyddwch yn meddwl am Ghana (neu gwledydd eraill Affrica) y byddwch yn meddwl am y menywod yn eu dillad lliwgar, hardd, traddodiadol Affricanaidd. A’r dynion, hefyd, yn eu crysau lliwgar. Os ewch chi yno heddiw, fodd bynnag, fe welwch mai dillad o Marks & Spencer, Next, Gap a Ben Sherman sydd ar gefnau pawb.

Mae diwylliant, cymeriad a thraddodiadau’r wlad yn cael eu difetha, wrth i ni eu boddi efo dillad ail-law sydd, wrth gwrs, gymaint yn rhatach na’r dillad a wneir yno, gan weithwyr Affricanaidd. O’r herwydd, mae miloedd ar filoedd o weithwyr diwydiant dillad Affrica wedi colli eu swyddi, a nifer helaeth iawn o’r ffatrïoedd dillad wedi cau. Bu Ade yn cyfweld gŵr o Fanceinion a fu’n gweithio yn Ghana am 25 mlynedd yn helpu rhedeg ffatri ddillad. Esboniodd eu bod yn cynhyrchu dim ond 25% o’r hyn y buont yn ei gynhyrchu – ac nid oedd yn obeithiol y bydd modd cadw’r ffatri i fynd, na gwarchod y swyddi. Dim ond mewn digwyddiadau traddodiadol (megis angladdau) y gwisgir dillad traddodiadol, ond mae dillad y gorllewin yn ymddangos fwyfwy yn y rheini hefyd, gyda chrysau Blue Harbour yn cymryd lle’r dillad lleol.

Er bod y dillad yn rhad, mae’n eironig meddwl bod pobl dlawd Ghana, mewn pentrefi bach anghysbell, yn gorfod talu am y dillad ‘dan ni’n eu cynnig i siopau elusen am ddim. A sobr oedd eu gweld yn ymladd ei gilydd wrth i’r bagiau enfawr o ddillad gael eu hagor ar lawr rhyw farchnad leol. Rhennir y dillad yn ddosbarth cyntaf (i’w prynu gan drigolion y brif ddinas), ail-ddosbarth a thrydydd-dosbarth (dillad budur neu ddi-raen, ar gyfer y pentrefi bach).

A dyma’r eironi mwyaf…

Wedi i’r dillad ail-law ddifetha diwydiant dillad Ghana, a dod i ben â’u traddodiad o wisgo dillad Affricanaidd lliwgar a gwych, mae mwy o mwy o bobl y wlad yn dod yn ddi-waith. Ac mae’r elusennau a gasglodd y dillad yn y lle cyntaf yn mynd yno i’w helpu! Felly, mae’r elusennau’n creu’r broblem yn y lle cyntaf – cyn mynd yno’n hunan fodlon i weithio ‘er lles yr Affricanwyr’.

Fel dywedodd un ddynes ifanc sy’n cario pwysau o ddillad ar ei phen o bentref i bentref, er mwyn eu gwerthu: “Hoffwn fod yn deilwrwraig, ond does dim gwaith ar gael”. Ac fel y dywedodd dynes arall: “Mae’n hen bryd i’r gorllewin ddod i ben ag ystyried Affrica fel dumping ground”.

Cyngor Ade ar ddiwedd y rhaglen oedd i ni brynu llai o ddillad – a’u gwisgo am fwy o amser. ‘Rwy’n casáu prynu dillad – ac yn gwneud hynny eisoes. Ond bydd pob dilledyn nad wyf am ei gadw yn mynd ar ebay, i’w werthu i rywun o Gaerdydd, sydd am ei wisgo.

Ac mae gwir angen i’n elusennau ystyried eu gwaith mewn ffordd fwy holistaidd. Ar hyn o bryd, maen nhw’n niweidio traddodiadau a diwylliant cyfandir cyfan; yn helpu sicrhau fod pobl Affrica yn colli swyddi – ac yn ei gwneud yn haws i ni brynu mwy a mwy o ddillad rhad, o sweat-shops y dwyrain pell, gan feddwl i ni’n hunain fod popeth yn iawn, gan y bydd modd i ni eu cyflwyno’n garedig i ryw elusen pan fyddwn wedi gorffen â nhw.

Dyma gwestiwn i chi: sawl pâr o ‘sgidie sydd wir eu hangen ar gyfer un pâr o draed?

 

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma