O b j e c t
11 Hydref – 2 Tachwedd
Cyflwyna gallery/ten ei harddangosfa wrthrych gyntaf, object – sioe gymysg o waith 3d gan gynllunwyr, cerflunwyr a cheramegwyr yr oriel, ynghyd â’r arddangoswyr gwadd Bethan Gray a byKirsty.
Bydd yr arddangosfa yn pwysleisio ymhellach duedd yr oriel tuag at gynllunio â gwaith 3 dimensiwn, gan arddangos gwaith wedi’u gwneud â llaw ochr yn ochr â’r gweithgynhyrchwyd, gyda darnau yn rhychwantu o gynllunio cyfoes i gelfyddyd gain.
Gwela object lansiad menter newydd ‘ten x ten’, lle datblygir cynnyrch o nifer cyfyngedig ac a werthir yn unig yn yr oriel rhwng gallery/ten a cynllunydd o Gymru. Mae’r cydweithio cyntaf gyda’r cwmni byKirsty a’r cynllunydd Kirsty Patrick, gan ddatblygu un o’i chynnyrch mwyaf adnabyddus, y gorchudd golau scandinafaidd, sphery.
Bydd yr holl waith ar werth a’r Cynllun Casglu ar gael. Am fwy o wybodaeth am artistiaid a chynllunwyr yr oriel ewch i wefan gallery/ten
gallery/ten – Llawr cyntaf, 2 Windsor Place, Caerdydd CF10 3BY
sylw ar yr adroddiad yma