Mae Ceren Roberts yn 29 oed ac yn wreiddiol o Donteg. Erbyn hyn mae’n byw yn Grangetown ac yn gweithio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyma’r tro cyntaf iddi deithio ar ei phen ei hun…
23 awr ers gadael Caerdydd ac o’r diwedd mi oeddwn wedi cyrraedd Guatemala City. Dyw’r brifddinas ei hun ddim yn le arbennig; y cyfan lwyddais i weld oedd llawer o filwyr, security guards a weiren bigog bob man. Felly’r gobaith oedd gadel y ddinas cyn gynted â phosib er mwyn mynd i grwydro’r wlad.
Waw! Mae dinas Antigua yn le gwbl anhygoel. Mae’n ddinas fechan iawn yng nghanol y wlad gyda thri llosgfynydd mawr o’i hamgylch. Mae gymaint o liwiau yn y ddinas, o’r eglwysi, i’r tai, i’r dillad, ac mae pawb mor gyfeillgar – hola! neu ‘buenos dias!’ yn cael ei ddweud gan bawb sy’n pasio.
Yn yr hostel des ar draws Erik. Bu Erik yn byw yn Sweden ers iddo fod yn wyth mis oed, ond cyn hynny mi oedd yn byw ar strydoedd Guatemala City gyda’i fam. Fe aeth yn sâl yn fabi a chafodd ei fabwysiadu gan lleianod, ac yna yn y pendraw ei deulu o Sweden. Mae o wedi dychwelyd i’r wlad i geisio dod o hyd i’w fam biolegol.
Fe aeth Erik a mi am dro rownd y sgwâr a dod o hyd i ddathliad mawr yn ei chanol. Bydd hi’n ddiwrnod annibyniaeth Guatemala ar Fedi 15, a gan ei bod hi’n Medi’r cyntaf fe oedd y dathliadau yn dechrau yn gynnar.
Roedd y sgwâr llawn bobl leol yn dawnsio ac yn dathlu, bandiau pres yn bob man, dawnswyr, a’r holl barti yn mynd rownd a rownd y sgwâr. Oedd y lle yn wyllt. Yn hwyr mewn i’r dathlu cafwyd tân gwyllt anhygoel. Os hwn oedd dathliad bod Medi wedi cyrraedd, fedrai ddim aros i’r diwrnod go iawn!
Bore wedyn, deffro hefo chydig o gur pen felly aeth Erik a fi draw i grwydro’r bryniau a’r mynyddoedd cyfagos er mwyn trio clirio’r pen. Fe gerddon ni fyny Cero de la Cruz a gweld y ddinas o uchder gyda llosgfynydd de Agua yn y cefndir ac ymlaen wedyn i grwydro’r goedwig ar mynyddoedd. Ar ôl ychydig o oriau yn cerdded ac edrych ar y golygfeydd hyfryd, nol a ni i’r ddinas. Fe ddaethon ar draws caffi bach tywyll, yna oedden yn trio ymarfer ein Sbaeneg wrth drio siarad gyda’r bobl leol, ac yna cael ein gorfodi i neud tipyn o tequilas hefo nhw.
Bore wedyn, heb ormod o gur pen, mi oedd Erik, Elizabeth o Efrog Newydd a fi ar grwydr o gwmpas y ddinas. Fe aethon ni i bob man. Mae gymaint o hanes i’r ddinas a’r wlad, o’r Mayans, i’r Sbaenwyr yn mewnfudo, yr Eglwysi a’r eglwys gadeiriol sydd bellach prin yn sefyll ar ôl yr holl ddaeargrynfeydd.
Fydda i’n gadael Antigua bore ma (a diolch byth gan fod mwg wedi dechrau dod allan o losgfynydd Fuego heddiw). Fyddai’n mynd ymlaen i Lago de Atitlán. Mi wnes i hanner meddwl llogi beic modur a gyrru yno gyda Erik a Kevin, ond gan fy mod i erioed wedi gyrru un o’r blaen nid oedden nhw’n meddwl bod yn y syniad callaf – a dwi’n meddwl base mam wedi fy lladd, felly ar y bws fydda i’n mynd beryg.
Tan tro nesa’…
sylw ar yr adroddiad yma