gan Sara Moseley
Wedi hir baratoi mae sianel deledu lleol gyntaf Cymru, Made in Cardiff, ar yr awyr. Bob nos ar sianel Freeview 23 caiff drigolion y brif ddinas weld cymysgedd o newyddion ac eitemau cylchgronnol.
Daniel Glyn a Mariclare Carey-Jones oedd yn cyflwyno neithiwr. Cafwyd cymysgedd eang o eitemau gan gynnwys miwsig, cyfweliadau ac eitem gynhwysfawr ar wobr Iris.
Yn Saesneg yn unig mae’r cynnwys ar hyn o bryd ond dywedodd rheolwr yr orsaf, Bryn Roberts, wrthon ni;
“ Rydym ni yma yn Made in Cardiff yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg trwy roi cynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg ar ein gwefan a thrwy ein cyfryngau cymdeithasol.” Esboniodd Bryn fod cyfweliadau Cymraeg yn cael eu gwneud ochr yn ochr a rhai Saesneg pan fod hynny yn bosib. Ar Facebook mae nhw ar hyn o bryd ond fe fyddant yn ymddangos ar y wefan hefyd maes o law.
Amser a ddengys os fydd y sianel newydd yn denu pobl Caerdydd i’w gwylio. Ond dylid llongyfarch Bryn a’r tîm o ddeuddeg am ddyfalbarhau at y lawnsiad.
Gadewch i Pobl Caerdydd wybod beth ydych chi yn ei feddwl.
Yn ogystal a Freeview 23 fe fydd ar gael ar Virgin 159 a Sky 134 erbyn ganol Tachwedd.Bydd teledu lleol Abertawe a Bay TV Clwyd yn lawnsio yn 2015
sylw ar yr adroddiad yma