gan Iwan Evans
Hoffech chi gwrdd â’ch cymdogion sy’n siarad Cymraeg yn y Rhath?
Dewch i dymor newydd Trydafod y Rhath.
Dyddiad cyntaf yr hydref hwn:
Nos Iau 19 Medi, 8.30yh ymlaen
Mae criw ohonom yn cwrdd unwaith y mis ar lawr cyntaf y Pear Tree i sgwrsio a chymdeithasu mewn awygylch anffurfiol.
Dyn ni’n edrych ymlaen at weld ffrindiau hen a newydd y mis hwn.
Hoffwn ni drefnu rhywbeth arbennig hefyd cyn diwedd y flwyddyn – efallai o gwmpas y Nadolig?
Oes syniadau gennych chi? Dewch i’r cyfarfod cyntaf i rannu eich syniadau!
Gobeithio y gwelwn ni chi yno. A chofiwch roi gwybod i’ch ffrindiau.
Y Pear Tree, Wellfield Road, Y Rhath CF24 3PE
Trydarfod y Rhath: @trydarfod
Y Rhath ar-lein: @y_rhath
sylw ar yr adroddiad yma