Noson Gomedi Ngwesty’r Parc

4 Mawrth 2015

Adolygiad Dafydd Frayling

Ni fûm erioed mewn noson gomedi yn y Gymraeg a chyda pheth pryder, mentrais i Westy’r Parc i wrando ar Steffan Alun, Noel James a Daniel Glyn (yr MC). Trefnwyd y noson gan Fenter y Fro.

Roedd tua deugain o bobl yno a – rhywbeth sydd wastad yn syndod imi ym myd y Gymru Gymraeg – prin roeddwn yn adnabod neb.

Roedd gig Daniel Glyn yn wirioneddol dda â chymysgedd naturiol o Gymraeg, yr iaith fain a rhegfeydd lliwgar. Roedd ei sylw miniog am un o sêr ein sgrin fach yn ddoniol y tu hwnt. Dyna yn fy marn i lle mae hiwmor Cymraeg yn llwyddo – trafod pobl adnabyddus yn ein byd gweddol fach – a hynny heb flewyn ar eich tafod. Ers dyddiau’r Gogynfeirdd mae dychan wedi bod yn rhan annatod o ddifyrrwch y Cymry.

Roedd Steffan yn nerfus ac yn un o’r comedïwyr lle mae ei bersonoliaeth cyn bwysiced yn ei act â’i jôcs.

Bwystfil gwahanol roedd Noel. Iddo fe roedd y dweud yn rhagori ar bob dim. Yn anffodus roedd ei foeseiriau’n ennyn yr un ymateb yn Gymraeg ag ydynt yn tueddu ei wneud yn y Saesneg – ochenaid a griddfan yn hytrach na chwerthin iach. Ar un adeg roedd Noel yn edliw (ychydig o ddifrif hefyd) i’r gynulleidfa am ei diffyg chwerthin. Ond ar y cyfan digon derbyniol.

Daniel Glyn, ar y llaw arall – gwych. Hyderus, deifiol, yn ymgysylltu â’r gynulleidfa a’i thynnu i’r act. Grêt o beth. A phan wedodd ei fod yn arfer bod yn gyflwynydd teledu ar raglenni plant, ‘ond roedd hynny’n dair… pedair… stôn yn ôl’ (gan wneud sbort am y ffaith ei fod wedi twchu ryw ychydig) mi chwarddais yn uchel.

Dyna beth yw thermomedr comedi sy’n taro tant.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma