Bydd Caerdydd yn croesawu 2015 gyda thân gwyllt yn goleuo’r awyr yn nathliadau Calennig y ddinas.
O 9.30pm ar Nos Galan, caiff ymwelwyr â’r Ganolfan Ddinesig hanesyddol bartïo gyda DJ byw, mwynhau cyffro reidiau’r ffair deuluol, mwynhau hudoliaeth Gŵyl y Gaeaf WalesOnline Caerdydd a joio’r awyrgylch wrth i 2015 agosáu.
Ar ôl 6.30pm, bydd gwasanaeth bws am ddim yn gweithredu diolch i Bws Caerdydd ac Alexander Dennis Ltd. Mae manylion llawn am lwybrau a’r amserlen ar wefan Bws Caerdydd.
Bydd y ffair yn rhedeg rhwng hanner dydd ar Nos Galan i 1.00am ac ar Ddydd Calan o 2.00pm i 8.00 p.m. I sglefrio yng Ngŵyl y Gaeaf, prynwch docyn drwy ffonio 02920 230130.
I gael rhagor o fanylion am y dathliadau ewch i wefan Nadolig Caerdydd.
Blwyddyn newydd dda!
sylw ar yr adroddiad yma