‘Nid oes Cymraeg yma!’

3 Medi 2013

Braf yw clywed iaith y nefoedd ar strydoedd Caerdydd, meddai Meilyr Siôn, ond yn y cadarnleoedd mae’r iaith yn marw. A yw Cymry Cymraeg y brifddinas wedi cyfrannu tuag at yr argyfwng?

NID OES CYMRAEG YMA’ cyhoeddodd y geiriau bras ar ochr wal yr archfarchnad yn Llanbedr Pont Steffan. Dwi’n gallu gweld y slogan mor glir yn fy nghof er bod dros ugain mlynedd ers i mi ei darllen erbyn hyn. Cymdeithas yr Iaith oedd yn protestio am ddiffyg defnydd o’r Gymraeg yn yr archfarchnad.  Teg byddai datgan bod pethau gwella erbyn hyn wrth i gwmnïau fel Morrison a Tesco fwrw ati i ddefnyddio’r iaith yn eu siopau ar draws y wlad. Ond sut siâp sydd ar yr iaith ym 2013? Yn ôl yr ystadegau cymysg a dweud y lleiaf. Mae mwy o bobl ifanc yn medru siarad Cymraeg nag erioed o’r blaen. Mae hynny o ganlyniad i’r twf yn y niferoedd sydd yn derbyn  eu haddysg drwy’r ysgolion Cymraeg. Serch hynny, mae’r nifer sydd yn medru’r iaith wedi gostwng yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf o 21% ym 2001 i 19% ym 2011.

Dwi’n frodor o Geredigion – Neuaddlwyd ger Ciliau Aeron a bod yn fanwl gywir. Dwi’n Gymro Cymraeg i’r carn ac yn ofnadwy o falch am hynny. Ers graddio o Brifysgol Caerdydd ym 1994 dwi wedi ymgartrefi yng nghyffiniau’r brifddinas. Roedd yna fyd o wahaniaeth rhwng bywyd dinesig Caerdydd a bywyd gwledig  y fferm yng Ngorllewin Cymru ar ddechrau’r nawdegau. Erbyn hyn mae yna wahaniaeth mawr rhwng Ceredigion fy mhlentyndod a’r Ceredigion sydd yn bodoli heddiw.

Tai Haf

Cymraeg oedd iaith y gymdeithas yn ystod y saithdegau a’r wythdegau cynnar. Byddai dyfodiad disgybl o Loegr yn peri cryn gyffro ar iard yr ysgol gynradd wrth i ni fwrw ati i fod yn gyfaill mynwesol gyda’r creadur egsotig yma! Erbyn i mi adael ysgol uwchradd ym 1991 y Cymry Cymraeg oedd y lleiafrif. Daeth ton ar ôl ton o fewnfudwyr i ymgartrefi ynein hardaloedd gwledig a gwelwyd cynnydd aruthrol yn y nifer o dai haf gan droi llefydd fel Cei Newydd a Llangrannog yn bentrefi gwag a marw yn ystod y gaeaf.

Roedd rali a phrotest yn ddigwyddiad cyson yn ystod yr wythdegau hwyr a’r nawdegau cynnar ac roedd cryn gynnwrf a thrafod am ddyfodol yr iaith ar y strydoedd ac yn y cyfryngau. Roedd Thatcher a’i Cheidwadwyr yn ganolbwynt i’r dicter a gwelwyd nhw fel prif elynion yr hen ffordd Gymreig o fyw.  Dwi’n cofio’r wefr o fynychu gigs Cymdeithas yr Iaith yn gyson ar y penwythnosau yn ystod fy arddegau. Roedd y Feathers yn Aberaeron yn ffefryn personol  ynghyd â neuadd Victoria ac Undeb y Myfyrwyr yn Llanbed. Roedd taith i Aberystwyth yn bererindod gyfarwydd ynghyd â Roc y Cnapan yn Ffostrasol. Byddai’r digwyddiadau yma’n gyfle i gymdeithasu ac i garu yn y Gymraeg.  Dwi’n llawer rhy hen i fynychu gigs dyddiau ‘ma a diolch i’r drefn am hynny, ond prin dwi’n clywed bod gig wedi ei threfnu yn  unman tua’r gorllewin gwyllt.

‘We Don’t Speak Welsh Here!’

A bod yn onest, dwi’n poeni. Ychydig o Gymraeg dwi’n clywed ar strydoedd Aberystwyth, Aberaeron ag Aberteifi pan dwi’n ymweld â’r hen fro. Prin yw’r siopau Cymraeg eu hiaith mwyach. Maent yn dal i fodoli dwi’n gwybod ond eithriadau ydynt erbyn hyn. Dwi’n un am ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg ond dwi’n digalonni gyda’r datganiad cyson: ‘WE DON’T SPEAK WELSH HERE!’ Yn ystod ymweliad diweddar ag Aberaeron cefais brofiad rhyfedd a dweud y lleiaf. Wrth dalu am loshyn i’m mab nododd y ferch glên tu ôl i’r cownter mewn acen fras cyffiniau canolbarth Lloegr, ‘What brings you to Aberayron? Holidays is it?’ Prin iawn oedd yr acenion Cymreig yn y caffis heb sôn am y siaradwyr Cymraeg. Mis Mawrth oedd hyn nid mis Awst!  Am y tro cyntaf yn fy mywyd roeddwn i’n ddieithryn ym mro fy mebyd.

Pa ots ble ni’n byw?

Ydw i wedi cyfrannu tuag at y sefyllfa druenus yma? Ydw, wedi’r cyfan dwi wedi  symud i  fyw i Dde Cymru. Rhaid i mi gyfaddef mai gwaith oedd y prif reswm dros adael. Mae tipyn mwy o waith yng Nghaerdydd o’i gymharu â Cheredigion. Pan oeddwn i’n blentyn roedd mwy o bobl yn ennill eu bywoliaeth yn amaethu. Prin fod neb gwneud hyn dyddiau yma yn ardal Neuaddlwyd er enghraifft. Mae’r gymdeithas wledig wedi newid a chrebachu. Ble mae’r swyddi ar gyfer ein hieuenctid? Yn ein trefi a’n dinasoedd? Roeddwn i bob amser yn cysuro’n hun gyda’r ffaith fy mod i’n dal i fyw yng Nghymru ac yn parhau i gyfrannu tuag at y diwylliant Gymraeg. Pa ots ble ro’n i’n byw? Caerdydd neu Ceredigion. Mae’r rhan helaeth o fy nghyfoedion ysgol wedi dilyn yr un llwybr a mi drwy ymgartrefu yma yn y de a braf yw clywed yr iaith ar strydoedd Treganna ac ar Heol y Frenhines. Diwedd y gân yw’r geiniog am wn i! Serch hynny noda cyfrifiad  2011 bod  poblogaeth siaradwyr Cymraeg y brifddinas mond wedi codi 0.1% yn ystod y degawd olaf. Mae’r adar ifanc felly’n gadael y nyth ac yn gorfod hedfan dros glawdd Offa i chwilio am waith mae’n amlwg!

Mae’r ystadegau’n adrodd stori frawychus. Ym 1991 roedd 54.9% o’r boblogaeth yn medru siarad Cymraeg yn Sir Gâr. Disgynnodd y cyfanswm i 50.3% ym 2001 cyn disgyn ymhellach i 43.9% erbyn 2011. Yng Ngheredigion roedd 52% yn medru siarad Cymraeg ym 2001. Erbyn 2011 roedd y cyfanswm wedi disgyn i 47.3%. Mae Gwynedd yn parhau i fod yn gadarnle ar gyfer y Gymraeg gyda 56% o’r boblogaeth yn honni eu bod yn medru siarad, darllen ag ysgrifennu Cymraeg. Am ba hyd fodd bynnag? Mae’r cymunedau lle’r oedd 70% yn siarad Cymraeg wedi disgyn o 92 i 54 rhwng 1991 a 2001 yn ôl y Cynulliad.

Parhau i lifo’n ddi-dor gwna’r mewnfudwyr. Yn ystod sgwrs ddiweddar gyda fy nhad fe aeth ati i gyfri faint o Gymry Cymraeg sydd yn byw yn ei bentref ef. Roedd tri chwarter o’r boblogaeth yn fewnfudwyr  ac roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi ymddeol. Dwi hefyd yn cofio sgwrsio gydag athrawes ysgol gynraddardal Tregaron. ‘Ychydig o blant iaith gyntaf sydd gyda ni yn yr ysgol erbyn hyn. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dod o gartrefi di-Gymraeg,’ nododd yn drist. ‘Serch hynny o leia’ maen nhw’n derbyn addysg Gymraeg a heblaw amdanyn nhw byddai’r ysgol wedi hen gau!’ meddai drachefn yn fwy gobeithiol.

‘Tai a Gwaith!’

Mae hen slogan Cymdeithas yr Iaith ‘Tai A Gwaith!’ yn fwy perthnasol nawr nag erioed. Methiant fu ymdrechion y Cynulliad i berswadio mwy o bobl i fwrw ati i ddechrau busnesau bychain yng Nghymru. Methiant arall oedd yr ymgais i godi nifer y siaradwyr Cymraeg o 5% erbyn 2011. Rhaid felly gofyn y cwestiwn, a ydym ni fel Cymry yn dioddef o ddiffyg hyder? Ydyn ni’n poeni’n ddigonol am ddyfodol ein hiaith? Dwi weithiau’n teimlo ein bod ni wedi colli golwg ar y sefyllfa sydd ohoni gan feddwl ein bod ni wedi ennill y frwydr barod. Wedi’r cyfan, mae yna Gynulliad yn y Bae, mae nifer yr ysgolion Cymraeg yn cynyddu ac mae statws yr iaith wedi codi’n aruthrol yn ystod y tri deg mlynedd ddiwethaf. Thatcher â’i meddylfryd Eingl Sacsonaidd oedd y gelyn yn ystod yr wythdegau, a’i difaterwch yw ein prif elyn erbyn hyn?

Mae tranc yr iaith o fewn ein cymunedau Cymraeg yn adlewyrchiad o’r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru ar hyn o bryd. Er bod cynifer ein plant yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ychydig iawn sydd yn defnyddio’r iaith tu allan i’r ysgol.  Mae’r arwyddion cyhoeddus yn ddwyieithog a da yw gweld hynny ond dwi’n gofidio ein bod ni wedi dechrau ar y broses o Ladineiddio’r iaith wrth geisio ei hachub. A ydi’r iaith yn datblygu i fod yn iaith symbolaidd yn hytrach na bod iaith fyw? Dwi’n teimlo rhyw wacter dolurus pan dwi’n ymweld â Chernyw neu Iwerddon. Mae olion y Gernyweg a’r Gwyddelig ymhobman boed hynny ar enwau’r pentrefi neu ar yr arwyddion ffordd ond dwi braidd byth yn clywed yr ieithoedd yn cael eu defnyddio gan y brodorion. A’i dyma fydd tynged ein hiaith ni? Mae angen lloches a man cadarn i’r Gymraeg neu barhau i grebachu bydd ei hanes. Mae dylanwad globaleiddio economaidd ac ieithyddol yn gwanhau gafael ein hiaith yn ein cymunedau ac os na weithredwn ni cyn hir mi fydd hi’n rhy hwyr.

‘NID OES CYMRAEG YMA,’ meddai’r ysgrifen ar y mur o gof fy mhlentyndod. Mae’r rhybudd yn un amlwg!

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Janet yn dweud:

Cytuno ei fod yn broblem fod pobl ifanc yn symud i’r ddinas. Ond hefyd Mae Cymraeg bellach i fod i gael ei dysgu ymhob ysgol gynradd ac uwchradd yn y wlad.
Felly does dim esgus fod pobl ifanc Aberaeron, Llanelli (lle ges i nghodi) neu Aberystwyth yn honni nad ydynt yn siarad yr iaith. Mater o agwedd yw e.
Digon teg am y mewnfudwyr, ond gallan nhw ddysgu digon i gyfarch mewn siop yn ddigon cyflym. Eto, mater o agwedd. DWI wedi ei weld yn digwydd.