Roedd ugeinfed parti Time Flies fod cael ei gynnal yn Y Globe yn y Rhath heno (31/1/14) ond oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i rheolaeth, mae nawr yn cael ei gynnal yng Nghlwb Nos Solus yn Undeb y Brifysgol.
Gofynnir i’r rhai sy’n mynd defnyddio’r fynedfa ar Park Place a defnyddio’r tocynnau sydd ganddynt yn barod.
Er i’r noson clybio, sy’n denu DJs byd enwog i Gaerdydd, werthu allan wythnosau yn ôl mae’r newid mewn lleoliad yn golygu bod yna docynnau ychwanegol nawr ar werth.
Dywedodd trefnydd y noson, Henry Blunt: “Gadewch i ni wneud heno yn noson enfawr i’w chofio – Byddwch yn rhan o Hanes Clybio Cymru!”
DJs sy’n chware heno:
X-PRESS 2 GRAEME PARK CRAIG BARTLETT, DAVE JONES SHANE MORRIS, FOOTLONG DJS
Gellir archebu tocynnau o wefan Time Flies am £18 â ffi archebu, a bydd tocynnau hefyd ar gael ar y drws am £20.
Mae’r drysau yn agor o 21:30 hyd 4:00 y bore. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 07973 222 231
sylw ar yr adroddiad yma