Mae’n anodd coelio mai dim ond chwe mis sydd ers lansiwyd Pobl Caerdydd yng Ngŵyl Tafwyl!
Ar ran tîm golygyddol Pobl Caerdydd hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am eich cefnogaeth a’ch diddordeb ers i ni lansio’r wefan ym mis Mehefin, heb anghofio ein cyfranwyr brwdfrydig am yr holl erthyglau, adroddiadau, adolygiadau, darnau barn a sylwadau di-ri nid yn unig ar y wefan hon ond drwy ein cyfrif Twitter a’r dudalen facebook.
Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant yma yn 2014!
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!
Rhys Lloyd
sylw ar yr adroddiad yma