Sian B Roberts yw perchennog cwmni Loving Welsh Food, sy’n arwain teithiau a gweithgareddau sy’n defnyddio a dathlu cynnyrch lleol.
Wrth i ni nesáu at y Nadolig dyma Sian yn rhannu rhai o’i hoff rysaits gyda Pobl Caerdydd – a chyfle i ennill dau docyn anrheg ar un o’r teithiau.
Rwy’n neud y saws/dip lemwn & iogwrt i weini gyda glasied o win neu aperitifs – cyn eistedd lawr i fwyta. Mae’r bisgedi ceirch yn handi hefyd, i weini gyda pate, caws ayyb.
Mae’r bisgedi hefyd yn anrheg neis gyda chaws, a siytnis.
Dwi’n cadw potel o’r vinaigrette ar gyfer salad syml.
Ar ôl prydau cyfoethog Nadolig, dwi’n hoffi paratoi cinio neu swper o gawl, bara ffres, cigoedd oer neu gaws gyda salad gwyrdd.
Rwy’n defnyddio pob math o letys, tomato, afocado, ciwcymbr, pupur ayyb ar gyfer y salad. Os oes yna datws ar ôl hefyd, dwi’n ffrio rheina ac yn eu hychwanegu.
Mae’r rysáit Ffrangeg – Chef’s Salade – yn neis hefyd, sef letys, tomato, ciwcymbr, a darnau o ham/cig moch, a chaws. Cymysgwch y cyfan gyda’r vinaigrette. Mae caws glas fel Môn Las, Perl Las neu Boksburg yn lyfli yn y salad yma.
Saws/dip Lemwn a Iogwrt
- 1 llwy fwrdd o mayonnaise
- 1 llwy fwrdd o iogwrt plaen
- Sudd 1/4 lemwn
- 1 llwy de o Vinaigrette (wele isod)
- Sibwns, persli neu bara lawr (1 llwy de)
Cymysgwch y mayonnaise a’r iogwrt mewn bowlen. Ychwanegwch y sudd lemon, vinaigrette a’r perlysiau neu bara lawr. Cymysgwch eto – a rhowch i oeri yn yr oergell.
Gweinwch gyda chreision neu lysiau wedi eu sleisio e.e. moron, pupur, seleri Mae’r saws hefyd yn mynd yn dda gyda physgod
Vinaigrette
- 1 llwy de o halen
- 1 llwy de o bupur du
- 1 llwy de o fwstard
- 2 llwy fwrdd o finegr seidr
- 6 llwy fwrdd o olew olewydd
Rhowch y cynhwysion i gyd mewn cynhwysydd (ee. potyn jam). Caewch y cynhwysydd a siglwch yn ofalus nes bod y cynhwysion wedi cymysgu’n dda.
Bisgedi Ceirch
- 225g o flawd ceirch man
- 50g o flawd plaen
- 30g o siwgr man euraidd
- 3 llwy fwrdd o laeth
- 75g o fenyn
- ½ llwy de of bowdr codi
- ¼ llwy de o hufen tartar
- ½ llwy de o halen (os yn defnyddio menyn di halen)
Rhowch y blawd ceirch mewn bowlen. Ychwanegwch y blawd, y siwgr man, y powder codi, yr hufen tartar a’r halen ( os oes eisiau).
Cymysgwch gyda’i gilydd ac ychwanegwch y menyn.
Rhwbiwch y menyn i mewn i’r cyfan nes bod y cymysgedd yn edrych fel briwsion bara.
Ychwanegwch y llaeth a chymysgu a llwy i ddechrau, yna gyda’ch dwylo i ffurfio toes.
Rholiwch y cymysgedd yn wastad. Torrwch yn gylchoedd a gosod y bisgedi ar hambwrdd pobi wedi’i iro.
Coginiwch y bisgedi am 10 – 15 munud (dibynnu ar eu maint) mewn ffwrn sydd wedi ei thwymo o flaen llaw I 190 c/375 f/nwy marc 5.
Pate Mecryll
- 1 llwy bwdin o saws rhuddygl (horseradish)
- 300g o fecryll wedi ei fygu
- 1 llwy bwdin o bersli wedi ei dorri’n fan
- 2 lemwn – y croen a’r sudd
- Ychydig o olew olewydd – dechreuwch gyda 1 llwy bwdin
- Halen a pupur du
Rhowch y cynhwysion i gyd mewn cymysgydd bwyd i’w cymysgu.
Gweinwch gyda bara, neu ar y bisgedi ceirch.
Am gyfle i ennill dau docyn ar daith Blas y Brifddinas, cliciwch yma.
Os ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig arbennig, mae talebau – gift vouchers – ar werth yma i ymuno â Sian ar un o’i theithiau bwyd blasus.
I ddysgu mwy am Sian a’i chwmni, ac i gysylltu hefo hi, ewch i’r wefan http://lovingwelshfood.uk/#cymraeg.
sylw ar yr adroddiad yma