Mae Mewn Cymeriad yn gwmni newydd sy’n darparu perfformiadau dramatig, mewn gwisgoedd cyfnod, yn seiliedig ar gymeriadau o hanes Cymru.
Mae pob un o’r sioeau un dyn/un ferch wedi’u teilwra’n ofalus i gynnig awr addysgiadol adloniadol i blant cyfnod allweddol 2, lle cânt hefyd gyfle i gymryd rhan.
Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.
Mae Mewn Cymeriad wedi’i sefydlu gan Eleri Twynog Davies, cyn Bennaeth Marchnata a Digwyddiadau S4C, a wnaeth gychwyn yr arfer o gyflwyno sioeau byw mewn digwyddiadau Cenedlaethol i hyrwyddo brand a rhaglenni plant y sianel. Ar ôl gadael S4C i sefydlu Mewn Cymeriad, mae Eleri bellach yn cydweithio’n agos â sgwennwyr, cyfarwyddwyr, cynllunwyr ac actorion i wireddu gweledigaeth y cwmni i ddifyrru ac addysgu plant trwy ddod â hanes Cymru yn fyw.
Am fwy o wybodaeth am Mewn Cymeriad, cliciwch yma.
Twitter: @MewnCymeriad
sylw ar yr adroddiad yma