Caerdydd 0 – Aston Villa 0
Adroddiad Gwenda Richards
Beth bynnag yw cyflog David Marshall, mae e’n haeddu pob ceiniog. Unwaith eto y tymor hwn, yr Albanwr oedd arwr i’r Adar Gleision. Fe wnaeth arbediad anhygoel yn y funud olaf i wthio ergydiad Andreas Weiman dros y bar yn y funud olaf i sicrhau gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Aston Villa.
Marshall oedd y mwyaf prysur o’r ddau gôl geidwad a’i reolwr Ole Gunnar Solskjaer yn dweud na fyddai’n well ganddo unrhyw gôl geidwad arall. Heblaw am neidio i’r chwith i arbed cynnig Weiman, fe wnaeth ymateb yn chwim ar ôl i siot Fabian Delph daro Steven Caulker ar ei ffordd i’r gôl, ychydig cyn hyn.
Fe ddechreuodd y gêm yn gyffrous gyda dewisiadau Solskjaer yn dangos ei fod am ymosod o’r cychwyn. Taflodd ei ymosodwyr cryfaf i’r ffrae- Fraizer Campbell a Kenwyne Jones yn y blaen a Craig Noone a Wilfried Zaha ar y ddwy asgell.
Daeth cyfle gwych yn y munudau cyntaf wrth i Zaha basio ar draws y cwrt cosbi i draed Campbell ond fe darodd hwnnw’r postyn. Eiliadau prin wedyn a dyma Craig Noone yn taro’r pren. Caerdydd yn sicr oedd yn rheoli’r chwarae yn yr hanner cyntaf. Anwybyddodd y dyfarnwr gri Campbell am gic gosb ac roedd Zaha yn camsefyll pan darodd gefn y rhwyd.
Canol y cae yn ddi fflach
Gyda Craig Bellamy wedi’i wahardd am dair gêm yn sgil ei ymddygiad treisgar yn erbyn Abertawe ddydd Sadwrn roedd canol y cae yn dipyn gwanach. Gorfu i Jordan Mutch adael y cae ar ôl hanner awr oherwydd anaf a’r newydd ddyfodiad Wolff Eikrem yn dod arno yn ei le. Roedd Gary Medel yn ddi flino yn gwneud tacl ar ôl tacl ond doedd na ddim creadigrwydd. Collodd Zaha ei gwmpawd, neu fe aeth yn lliw ddall, oherwydd iddo fethu â phasio i’w gyd chwaraewyr siwt gymaint o weithiau nes iddo gael ei eilyddio. Daeth Daehli ymlaen ac fe wnaeth ei farc yn syth gyda phasio celfydd a rhedeg mentrus.
Yn yr ail hanner, Aston Villa oedd pia hi. Heblaw am Marshall, diolch fyth am Ben Turner, yn gadarn yn y cefn. Mae’r ystadegau’n dangos fod y meddiant bron yn gyfartal ond gwnaeth Caerdydd daro deuddeg ergyd ond dim ond deirgwaith yn unig at y targed. Doedd Kenwyne Jones ddim yn effeithiol llawer yn yr awyr. Mae angen gweithio ar symudiadau ar y llawr a pheidio dibynnu ar daro’r bêl yn obeithiol tuag at y cawr yn y blaen.
Roedd hwn yn bwynt pwysig iawn ond a fydd yn ddigon i ddringo o’r gwaelodion yr Uwchgynghrair?
sylw ar yr adroddiad yma