Mae ein colofnydd ar fywyd iach a maeth, Meleri Bowen yn mynd i’r afael ag un o’r bwydydd trendi diweddara.
I’r rhai hynny ohonoch sydd heb glywed am yr olew yma, mae’n un o’r cynhwysion i ychwanegu i’ch cwpwrdd. Mae ganddo lawer o ddaioni i’ch iechyd a’ch harddwch, ac mae modd i’w brynu yn eich archfarchnadoedd lleol erbyn hyn. Mae’n soled ar dymheredd ystafell ac yn meddalu wrth gynhesu.
Caiff ei ddefnyddio yn y gegin yn lle’r olew cyffredin wrth bobi, ffrio a rhostio; ei gymysgu â’ch smwddi; neu ei fwyta’n syth o’r llwy (fel ‘dwi’n ei wneud). Cewch ychwanegu tua 1 – 3 llwy bwdin o’r olew coconyt yma i’ch deiet bob dydd. Yn wahanol i lawer o olew, mae’n rhoi egni yn syth ac nid yw’n storio’n fraster.
Yn ogystal, medrwch ddefnyddio’r olew fel hufen i’r wyneb ac yn gymorth wrth dynnu colur; llyfnhau’r corff; gwynnu’ch dannedd; gwella briw; ac i leddfu brech glytiau (nappy rash).
Dyma ychydig o fanteision ychwanegol:
*Mae’n cynnwys Omega 6 a 9
*Cefnogi’r system imiwn
*Cydbwyso lefelau siwgr a cholesterol y corff
*Cryfhau’r esgyrn
Felly rhowch gynnig ar ddefnyddio’r olew coconyt yma. Efallai y byddai’n fuddiol ar gyfer rhywbeth ychwanegol. Arbrofwch!
sylw ar yr adroddiad yma