Mae Chapter bellach yn fan casglu ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd.
Mae Banc Bwyd Caerdydd yn rhan o’r Rhwydwaith Banciau Bwyd Cenedlaethol. Nod prosiect y Banciau Bwyd yw helpu a chefnogi’r rheiny sy’n dioddef o ganlyniad i galedi ariannol ac sydd yn wynebu methu â bwydo eu hunain a’u teuluoedd.
Mae modd helpu trigolion lleol mewn argyfwng trwy brynu eitemau ar y rhestr hon a’u rhoi i Fanc Bwyd Caerdydd:
- Llaeth (UHT)
- Sudd Ffrwythau (UHT)
- Grawnfwydydd Brecwast
- Siwgr
- Bagiau Te
- Coffi (Bach)
- Cawl (Pacedi & Thuniau)
- Cig (Tuniau)
- Pysgod (Tuniau)
- Tatws (Tuniau)
- Stwnsh parod
- Llysiau (Tuniau)
- Tomatos (Tuniau)
- Pasta
- Saws Pasta
- Reis
- Reis Sawrus (Pacedi)
- Nwdls
- Pasta a Saws
- Pwdin Reis (Tuniau)
- Pwdin Sbwng (Tuniau)
- Cwstard
- Losin i Blant
- Bisgedi / Bariau Snacio
- Ffrwythau (Tuniau)
- Siocled
- Jam
Mae mwy o wybodaeth am Fanc Bwyd Caerdydd, gan gynnwys eu rhestrau diweddaraf o’r bwyd sydd ei angen a gwybodaeth am ffyrdd eraill o gymryd rhan, o www.cardiff.foodbank.org.uk.
sylw ar yr adroddiad yma