‘Mae’n braf i gael y Gymraeg nol yn y teulu’

15 Mehefin 2013

Mae Nick Davies, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, yn siarad â Rhys Lloyd am ei brofiad o ddysgu Cymraeg

“Wnes i astudio ffilm yng Nghasnewydd felly dyna’r rheswm dwi yng Nghymru. Dwi o Northampton yn Lloegr yn wreiddiol ond mae Dad o Gaerffili. Roedd Mam-gu yn siarad Cymraeg a roedd Dad yn rhugl pan oedd yn ifanc iawn; cafodd ei eni yn ystod y rhyfel ac mae’n cofio pob fenyw yn siarad Cymraeg. Yn anffodus gollodd yr iaith dros y blynyddoedd felly i mi y rheswm dros ddysgu Cymraeg oedd y cysyllytiad teulu, i allu siarad â Mam-gu yn Gymraeg. Roedd e’n braf i’w dysgu i gael swyddi ac ati ond y rheswm go iawn oedd i adennill fy etifeddiaeth. Mae’n neis i Dad hefyd achos mae’n cofio tipyn o Gymraeg.

Nick Davies

Nick Davies

Ddechreues i drwy wneud dosbarth nos ond roedd e’n araf ac yn ddiflas braidd a dweud y gwir. Dydw i ddim mor dda gydag ieithoedd – ges i radd C yn TGAU Almaeneg – ond o leiaf roedd e’n brofiad o ddysgu iaith. Ar ôl hynny wnes i gwrs Wlpan dwy waith yr wythnos ond y trobwynt pan newidodd popeth a dechreuodd fy iaith ddatblygu oedd pan wnes i estyniad o’r cwrs Wlpan bob bore o wyth o’r gloch tan hanner awr wedi naw. Yn sydyn roedd popeth yn dod yn llawer mwy naturiol. Hefyd ges i wythnos hyfryd yng Ngholeg Iwerydd yn Sain Dynwyd. Roedd yn wych i dreulio yr wythnos gyfan yn siarad a meddwl yn Gymraeg. Roedd yn rili datblygu fy sgiliau iaith.

Mae’n ddefnyddiol hefyd i siarad Cymraeg yn y gwaith achos mae rhywbeth fel hanner y bobl yn y swyddfa yn siarad Cymraeg felly mae’n bwysig i ddefnyddio hi yn yn ystod y dydd. Dwi’n cofio llawer o bobl oedd yn siarad Cymraeg yn y dosbarth ond yn siarad Saesneg tu allan; mae peryg iddyn nhw golli’r sgiliau yn y diwedd, felly mae’n bwysig i gario mlaen i ddefnyddio hi.

Mae’r olwyn wedi troi

Roedd cwrdd â Siân fy nwraig yn bwysig achos Cymraes yw hi, felly roedd hynny’n ddefnyddiol iawn i ymarfer! Mae fy mab yn mynd i ddechrau yn ysgol newydd Treganna ac mae fy merch ddeunaw mis oed yn dechrau siarad nawr ac mae’n neis clywed hi’n gofyn am laeth yn lle milk a pethau fel na. O’n i’n fwy diog gyda fy mab oherwydd o’n i’n dad newydd ac wedi blino hanner yr amser ac yn siarad lot mwy o Saesneg!  Mae’n braf i gael y Gymraeg nol yn y teulu ac i gael dau o blant bach sy’n siarad yr iaith; mae e fel bod yr olwyn wedi gwneud tro crwn.

Mae Mam yn hollol gefnogol o’r Gymraeg; mae’n ffeindio fe’n ddiddorol iawn. Dwi ddim wedi cael unrhyw ymateb negyddol o’r teulu; weithie gyda ffrindie o Loegr dydyn nhw ddim rili yn ‘cael’ e: what’s the point learning a dead language? Ond i fod yn deg, efo’r rhan fwya ohonyn nhw os mae nhw’n dod i Gaerdydd mae’n synnu nhw fod gymaint o Gymraeg i’w glywed yma.

Dwi’n ystyried fy hun yn Gymro; hyd yn oed fel bachgen yn Northamptonshire o’n i’n cefnogi Cymru yn y rygbi a’r pêldroed; sai’n siwr pam ond oedd e jyst yn neis i fod yn wahanol felly mae’n braf erbyn hyn i ffeindio fy hun yn byw a gweithio yng Nghymru, yng Nghaerdydd – ac yn siarad Cymraeg. Mae’n rhyfedd mewn ffordd achos mae lot o bobl sydd wedi nabod fi ers o’n i’n ifanc yn ffeindio fe’n rhyfedd os mae’n nhw’n fy nghlywed i’n siarad Cymraeg.

Mae’n bosib i wneud e. Mae jyst yn cymryd tipyn bach o ymdrech. Mae’n bwysig iawn i ddefnyddio’r Cymraeg tu allan i’r dosbarth hefyd. Dyna’r peth pwysig dwi’n meddwl yn y pen draw. Dwi dal yn gwneud lot o gamgymeriade ond dwi ddim yn poeni gymaint amdano fe nawr.

Jyst plymio mewn a gweld beth sy’n digwydd!”

 

Rhannu'r erthygl hon