Gan Huw Owen, o ‘Made in Cardiff’.
Gyda disgwyl i 20,000 o bobol ymweld â’r Tafwyl penwythnos nesaf , mi fydd Made in Cardiff yno i helpu i ddathu’r digwyddiad.
Bydd ein gohebydd Ndidi Spencer, a ddaeth i’n dinas ychydig flynyddoedd yn ôl o Ogledd Lloegr, yn dysgu ychydig o Gymraeg fel ei bod yn gallu cynnal sgwrs gyda mynychwyr yr Ŵyl. Mae’n cael help gan Glyn Wise yn rhinwedd ei swydd fel tiwtor Cymraeg i oedolion gyda Phrifysgol Caerdydd, a bydd hyn yn galluogi Ndidi i feistrioli rhai dywediadau elfennol.
Bydd nifer o stondinau ar y safle yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig ynghyd â gweithdai, sesiynau llenyddiaeth, cerddoriaeth, celf a drama. Ar y prif lwyfan bydd perfformiadau byw gan artistiaid roc, pop a gwerin mwyaf llwyddiannus y sȋn pop Cymraeg. Ceir hefyd sesiynau acwstig, diddanwyr stryd, sesiynau dawns a gweithgareddau chwaraeon i blant o bob oedran yn ystod deuddydd yr Ŵyl.
Os ydych am weld sut mae rhywun sydd â dim cefndir Cymreig yn cael llwyth o hwyl yn dysgu Cymraeg gwyliwch ‘What’s Occurrin’ Cardiff?’ am 8 yh bob nos yn yr wythnos hyd at benwythnos yr Ŵyl – yn dechrau Dydd Llun Mehefin 29ain. Ac yna ar Orffennaf 6ed bydd rhaglen gyfan o What’s Occurrin’, Cardiff? gyda Mariclare Carey-Jones yn dod o’r Castell i adlewyrchu bwrlwm Gŵyl Tafwyl.
sylw ar yr adroddiad yma