Bydd gwaith paratoi yn dechrau wythnos nesa’ i agor Llyfrgell Ganolog Caerdydd chwe diwrnod yr wythnos gyda gwell cyfleusterau.
Bydd y Llyfrgell Ganolog yn cau dros dro am hyd at bythefnos o ddydd Sadwrn 18 Ebrill, ac yn ailagor ddydd Sadwrn 2 Mai fan pellaf. Tra bo’r gwaith yn digwydd, bydd darpariaeth llyfrgell symudol ar gael y tu allan i’r Llyfrgell Ganolog.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, hwn fydd y cam cyntaf yn y gwaith o wella’r llyfrgell a bydd yn creu llyfrgell newydd i’r arddegau ar y llawr gwaelod, ardaloedd perfformio newydd a llawr digidol newydd.
Yn rhan o’r gwelliannau, bydd gwasanaethau sydd ar hyn o bryd yn cael eu darparu yn yr Hyb Cynghori yn Nhŷ Marland yn symud i’r llyfrgell.
O fis Gorffennaf, bydd y Llyfrgell Ganolog ar agor chwe diwrnod yr wythnos unwaith eto, yn lle’r pum niwrnod presennol. Bydd yno well gwasanaethau llyfrgell a gwasanaethau hyb fel cyngor ar fudd-daliadau, gwasanaethau I Mewn i Waith, Canolfan Cyngor ar Bopeth a’r Undeb Credyd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor:
“Mae’r Llyfrgell Ganolog yn gyfleuster ardderchog wrth galon y ddinas. Mae’n fwy nag adeilad o lyfrau, a bydd y gwaith sy’n cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf yn gwella’r ddarpariaeth a hefyd yn sicrhau bod y Cyngor yn gwireddu’r arbedion a nodwyd yn y Gyllideb.
“Rydyn ni’n deall y bydd cau’r llyfrgell am gyfnod yn anghyfleus i ddefnyddwyr ac rydym yn ymddiheuro am hyn. Gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar tra bo’r gwaith yn digwydd.”
Bydd Cam 2 y gwelliannau yn digwydd ganol mis Mai a bydd y llyfrgell ar gau dros dro am hyd at dair wythnos.
Yn ogystal â’r llyfrgell symudol tu allan i’r llyfrgell, mae adnoddau ar-lein a manylion am lyfrgelloedd eraill y ddinas ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy gysylltu â C2C ar 029 2087 2088.
sylw ar yr adroddiad yma