Mae Vaughan Roderick yn un o leisiau mwyaf adnabyddus dinas Caerdydd erbyn hyn. Dyma ychydig eiriau ganddo ar drothwy lawnsiad Pobl Caerdydd
Gallwn ni yng Nghaerdydd ildio’r teitl yna i’r Cofis – o leiaf o safbwynt cyhoeddi yn y Gymraeg. Maen nhw’n haeddu ennill rhywbeth!
Ond mae Caerdydd wedi chwarae ei rhan y y byd cyhoeddi Cymraeg. Yng Nghaerdydd y lansiodd Ieuan Gwynedd “Y Gymraes” a’r adolygydd yn y 1840au. Yn y ddinas hon gwnaeth Gwasg y Dref Wen chwyldroi cyhoeddi llyfrau plant Cymraeg ac wrth gwrs yng Nghaerdydd y lansiwyd y papur bro cyntaf a’r papur dyddiol Cymraeg cyntaf er mai am wythnos Eisteddfod yn unig y cyhoeddwyd hwnnw!
A dyma ni eto – lansio gwefan newyddion i Gymry Caerdydd.
A fydd y peth yn llwyddo? Pwy a ŵyr? Pe bai modd proffwydo ffawd unrhyw fenter ar y rhyngrwyd fe fyddai neb wedi talu crocbris i brynu GeoCities, Bebo na Friends Reunited!
Cymraeg ar gynnydd
Cynnwys yw’r cyfan, wrth reswm. Os oes ‘na ddigon o gyfranwyr a digon o ddeunydd difyr fe ddaw’r darllenwyr.
Mae ‘na un peth yn gweithio o blaid y fenter. Mae Caerdydd yn un o’r llefydd prin hynny lle mae’r Gymraeg ar gynnydd. I’r rheiny o fy oedran i a fagwyd yng Nghaerdydd mae’r peth yn teimlo’n dipyn o wyrth.
Rwy’n sicr nad oeddwn i’n nabod pob un Cymro Cymraeg yng Nghaerdydd pan oeddwn i’n grwt ond roedd hi’n teimlo felly. Un ysgol gynradd Gymraeg oedd yma a honno’n ysgol un ffrwd. Anaml iawn y byddwn yn clywed y Gymraeg y tu hwnt i furiau’r ysgol a’r capel ac fe baentiodd dyn dŵad y Dinesydd darlun realistig iawn o fywyd cymdeithasol Cymraeg oedd mwy neu lai’n gyfyngedig i’r Conway a’r New Ely.
Does ond angen tanysgrifio i wasanaeth e-bost Menter Caerdydd i weld cymaint mae pethau wedi newid. Fe wnes i’r camgymeriad o dicio pob blwch wrth wneud hynny heb sylweddoli maint y corwynt o e-byst a fyddai’n fy nghyrraedd yn hysbysebu digwyddiadau – “nofio i fabis Cymraeg” – rili?
Mae’n addas bod y gwefan yma’n cael ei lansio yn ystod Tafwyl. Roedd y ffair y llynedd yn agoriad llygad i nifer o Gymry Cymraeg y ddinas ond yn fwy felly i’r Di-Gymraeg o bosib.
Mae’r Gymraeg (a’r Frythoneg) wedi bod rhan o fywyd Caerdydd o’r cychwyn cyntaf. Mae ei hanes yn ddi-dor a chyda unrhyw lwc, saib mewn hanes oedd y cyfnod hwnnw pryd y gallai ambell ddinesydd cibddall esgus mai estron oedd y Gymraeg i Gaerdydd.
Fel dywedodd rhywun rydym yma o hyd a nawr mae gennym lwyfan newydd i berfformio arni.
sylw ar yr adroddiad yma