Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi comisiynu crefftwr lleol i atgynhyrchu enghreifftiau o lwyau caru o’r casgliad cenedlaethol fydd ar werth yn eu siop ar gyfer Dyddiau Santes Dwynwen a Ffolant.
Mae’n debygol i’r llwy garu ddatblygu o’r llwy gawl. Lluniwyd llwyau caru’n fwy gofalus, ac fe’u rhoddwyd yn anrhegion fel arwydd o serch y cerfiwr. Rhaid bod yn fedrus i wneud llwyau caru – nid yn unig oherwydd y patrymau a’r manylion cymhleth, ond gan fod rhaid eu gwneud o un darn o bren. Mae’n grefftwaith pur gan na ddefnyddir glud na hoelion.
Mae casgliad mawr o lwyau caru o bob lliw a llun yn Sain Ffagan. Mae’r dyddiad 1667 ar gefn y cynharaf ohonynt. Oherwydd y diddordeb yn y casgliad mae’r Amgueddfa wedi comisiynu un o brif gerfwyr Cymru i ail-greu rhai o’r enghreifftiau gorau er mwyn i ymwelwyr allu prynu darn bach o hanes.
Dechreuodd Siôn Llewellyn o Ben-y-bont ar Ogwr, gerfio Llwyau Caru pan oedd yn ddim ond 12 oed; daeth y diddordeb pan dderbyniodd ei chwaer lwy garu gan ei chariad. Gan ddefnyddio pren o hen focs orennau a chyllell boced, naddodd ei lwy gyntaf a’i chyflwyno hi i’w fam. Mae Siôn yn eiddgar i amlygu tarddiad gwerinol y grefft. Cerfir pob math o symbolau ar y llwyau hyn megis diemwntau i gynrychioli cyfoeth neu siâp atalnod i gynrychioli’r enaid ac anwyldeb.
Dywedodd Curadur Sain Ffagan, Dr Emma Lile: “Wrth inni nesáu at ddyddiau gŵyl Dwynwen a Ffolant bydd gan ein hymwelwyr gyfle gwych i brynu rhywbeth hollol unigryw – atgynhyrchiad o lwy serch hanesyddol.”
Gellir prynu’r llwyau caru yn siop anrhegion Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru neu ar eu gwefan.
sylw ar yr adroddiad yma