Tan yn ddiweddar roedd Brychan Llyr yn yfed chwe photel o win y dydd. Ond yn 2011 fe roddodd y gorau i yfed yn sydyn, yn erbyn cyngor ei feddyg. Cafodd seizure a fu bron âi ladd a threuliodd bum wythnos yn anymwybodol yn yr ysbyty.
Yn yr hunan-anghofiant cignoeth hwn mae Brychan yn ail-fywr profiad dirdynnol ai ymdrechion i ddelio gydai alcoholiaeth yn gwbl agored. Mae hefyd yn codir llen ar effaith alcoholiaeth ar y teulu ai fagwraeth yn yr Hendre. Ond yn y gyfrol cawn hefyd stori bersonol dyn a fun ymhél â phob math o feysydd, gan gynnwys bywyd fel prif leisydd y band Jess, a 10 mlynedd yn gerddor proffesiynol yn yr Eidal, ei freuddwyd i gystadlu ym myd peryglus rasio ceffylau pwynt i bwynt ai yrfa fel cyflwynydd teledu. A thrwyr cyfan, mae cysgod sylweddol ei dad, Dic Jones, yn amlwg.
sylw ar yr adroddiad yma