Kizzy Crawford yn Chapter

18 Ionawr 2015

Adolygiad Cate Hopkins.

Roedd gig arbennig nos Iau’r 15fed Ionawr gan dalent lleol newydd Kizzy Crawford.

Chwaraeodd Kizzy yn y theatr Chapter Arts i lawn cynulleidfa o dua 250 o bobl. Gyda’i steil enaid/jas unigrwydd ei hun, mae’r dyfodol yn siŵr i fod yn gyffrous.

Cantores ddwyieithog o Merthyr Tydfil yw Kizzy, ac mae hi wedi cael sylw gan y byd cerddoriaeth am ei steil gwahaniaethol. Drwy ddefnyddio ei llais, ei gitâr ac nawr hefyd ei ffidil, mae Kizzy yn creu bob cân ar y llwyfan gan recordio llinell bas, curiadau drwm ag harmonïau hardd.

Ganodd hi ganeuon o’i EP newydd, o’r enw ‘Temporary Zone’ gan gynnwys ‘Y Drudwy’ a ‘Brown Euraidd.’

Mor gyffrous yw ei steil, mae hi wedi cael ei dysgrifio gan Stereoboard fel “a star in the making.”

Roedd 2014 yn flwyddyn anhygoel dros Kizzy. Mae hi wedi cefnogi Gruff Rhys a 9Bach, ac hefyd wedi chwarae gigs yn yr Ŵyl Glastonbury, Festival No.6 a llawer eraill. Mae’n amlwg ei bod hi wedi tyfu trwy’r profiad oherwydd oedd y gig neithiwr yn sioe hyderus ag aeddfed iawn.

Mae ganddi gwpl o gigs arall rhwng nawr a mis Mawrth ac wedyn mae hi’n mynd i Ganada. Am fwy o fanylion, ewch at ei gwefan.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma