Mae cryn dipyn o son wedi bod am y gwasanaeth iechyd yn ystod adeg etholiad y Cynulliad.
Ac mae pawb yn son am warchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr NHS) – a’r angen i sicrhau nad yw’n cael ei breifateiddio.
Ond a ydym yn deall beth, yn union, yw preifateiddio?
Er enghraifft, a fyddai unrhyw beth o’i le gyda hwn:
Rwy’n Weinidog iechyd yn Llywodraeth Cymru.
Fe wn fod angen tua 2,000 o gluniau newydd (hip replacements) yng Nghymru bob blwyddyn.
‘Rwy’n benderfynol fod y llawdriniaeth ar gael yn rhad ac am ddim i’r rheini sydd ei angen.
‘Rwy’n mynd allan i dendr – ac yn gwahodd nifer o bersonau (gan gynnwys cwmniau preifat a’r gwasanaeth iechyd gwladol – i gynnig am y gwaith).
‘Rwy’n gofyn iddynt i:
- warantu y bydd modd gwneud o leiaf 2,000 o lawdriniaethau pob blwyddyn
- adael i mi wybod faint bydd person yn gorfod aros cyn cael y llawdriniaeth (yn dilyn cadarnahad fod angen clun newydd)
- adael i mi wybod beth fydd y gost ar gyfer pob llawdriniaeth
- cytuno i gynnig gwasanaeth o safon cydnabyddedig, gan gynnwys offer a cluniau metel o safon.
Mae cwmni preifat yn gwneud cynnig sy’n well na chynnig y GIG. Fe fydd angen i bawb aros am llai o amser cyn cael y llawdriniaeth – ac fe fydd y gost y pen yn llai na’r cost o wneud y llawdriniaeth gan y GIG.
Mae ‘na elfennau eraill sy’n well na chynnig y GIG. Fe fydd modd i pob claf cael ystefell wely preifat – ac mae’r holl staff (doctoriaid, nyrsys ayb) yn arbennigo yn y maes. Mae’r adeilad yn lan ac yn fodern.
Rwy’n cynnig y gwaith i’r cwmni. Y Llywodraeth fydd yn talu am y gwaith, felly fe fydd y llawdriniaeth ar gael yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd.
Mae’r cwmni’n cael deall os na fydd yn gwneud y gwaith ar amser, ac i’r safon disgwyliedig, y gall wynebu cosb ariannol neu golli’r gwaith yn gyfan gwbl.
Mae’r Llywodraeth yn datgan yn glir ei fod am sicrhau, i’r dyfodol, y bydd gwasanaethau iechyd yn aros yn rhad ac am ddim i’r rheini sydd ei angen.
Gadewch i mi wybod, os gwelwch yn dda, beth sydd o’i le gyda hwnna.
sylw ar yr adroddiad yma