#iamapiece: Arddangosfa Craftivists Caerdydd/Achub y Plant

4 Hydref 2013

gan Sara Gibson, Swyddog y Cyfryngau, Achub y Plant

Ers ei lansio ym mis Hydref 2012, mae’r rheiny sy’n hoff o grefftau ar draws y DU wedi bod yn brysur yn gwnïo cannoedd o ddarnau jig-so. Maent wedi eu gwneud â llaw gyda’u negeseuon ynghylch pam y mae trechu newyn a diffyg maeth mor bwysig iddynt nhw. Gallwch weld yr arddangosfa yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan rhwng 5ed Hydref a 11eg Hydref 2013.

Welsh_jigsaw_pieces

Mae prosiect jig-so #iamapiece wedi cael ei greu gan y Craftivist Collective ac Achub y Plant i godi ymwybyddiaeth o effaith newyn plant, sef prif achos sylfaenol marwolaethau plant yn fyd-eang, sydd yn lladd 350 o blant bob awr o bob dydd.

O 11yb – 1yh ar y 5ed o Hydref bydd sesiwn grefftau yn yr amgueddfa, lle bydd cyfle i chi wnïo eich darn eich hun o jig-so i’w ychwanegu at yr arddangosfa ac i glywed mwy am waith Achub y Plant.

imapiece1

Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa neu’r digwyddiad, cysylltwch â walesinfo@savethechildren.org.uk neu edrychwch ar y dudalen digwyddiadau Facebook ar gyfer Cardiff Craftivists Caerdydd.

Arddangosfa prosiect #iamapiece
Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd
5 Hydref – 11 Hydref 2013

Dilynwch Sain Ffagan ar Twitter @StFfagans_Museum

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma