Datganiad gan Gyngor Caerdydd
Bydd cabinet Cyngor Dinas Caerdydd yn trafod cynnig i drawsnewid yr hen safle ailgylchu a gwastraff ar Waungron Road yn gyfnewidfa fysus newydd. Byddai’r cynnig yn darparu cyfleuster hollbwysig ar gyfer llwybr trafnidiaeth gyhoeddus newydd ar draws Gogledd-orllewin Caerdydd.
Mae Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd wedi cynnig nifer o safleoedd strategol ledled y ddinas sydd wedi’u clustnodi i gael eu datblygu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth bysus gwell o lawer. Bydd unrhyw gynigion a glustnodwyd ar gyfer y safleoedd strategol hyn yn destun y broses gynllunio lawn ac ymgynghoriad statudol.
Dywedodd y Cynghorydd Ramesh Patel, Aelod y Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd:
“Bydd y safle yn Waungron Road yn galluogi pobl sydd am deithio ar draws y ddinas o’r gorllewin i’r dwyrain ac i’r cyfeiriad arall i deithio ar y bws heb orfod dod i mewn i ganol y ddinas, gan sicrhau bod y teithiau’n cymryd llai o amser ac yn fwy uniongyrchol. Bydd hyn yn galluogi pobl yng nghymunedau lleol Trelái, Caerau a’r Tyllgoed sydd am deithio i Ysbyty Athrofaol Cymru neu ogledd a dwyrain Caerdydd i newid bws yn y cyfleuster hwn i wneud eu teithio’n fyrrach o ran amser.
“Mae’r safle’n agos i’r llinell reilffordd bresennol, gan roi mwy o gyfle i newid o’r bws i’r trên, gan gynyddu nifer y cyrchfannau y gellir eu cyrraedd yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru o’r safle hwn. Bydd nifer y cerbydau sy’n defnyddio’r safle o dan y cynnig hwn hefyd yn lleihau o gymharu â’i ddefnydd blaenorol fel cyfleuster gwastraff.
“Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gallu cyflawni ein nod o greu rhaniad moddol 50/50 rhwng y sawl sy’n teithio mewn car a’r sawl sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn ddewis amgen deniadol a hygyrch a byddwn yn parhau i weithio gyda gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus i ddarparu’r seilwaith i helpu gyda’r broses hon.”
Mae CDLl Caerdydd wrthi’n cael ei archwilio gan Arolygydd Cynllunio Annibynnol Llywodraeth Cymru ac yn dilyn nifer o wrandawiadau cyhoeddus diweddar, mae swyddogion y Cyngor yn mynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd a byddant yn ymateb iddynt o fewn y cyfyngiadau amser a bennwyd gan yr Arolygydd Cynllunio.
Ar ôl i’r cyfleuster gwastraff gael ei gau, dywedodd y Cynghorydd Bob Derbyshire, yr Aelod y Cabinet dros yr amgylchedd:
“Ar adeg pan fo’r Cyngor yn wynebu pwysau ariannol nas gwelwyd ei math o’r blaen, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’n cyfleusterau. Yn y chwe mis cyntaf ers i’r safle ar Waungron Road gau, mae canolfannau gwastraff ac ailgylchu gwastraff y cartref wedi cynyddu 69 y cant.”
“Mae pryderon wedi’u codi y byddai cau’r cyfleuster yn arwain at gynnydd mewn achosion o dipio anghyfreithlon yn yr ardal ond mae’r gwrthwyneb wedi digwydd mewn gwirionedd. Mae tunelledd y gwastraff sy’n cael ei dipio’n anghyfreithlon wedi gostwng ac mae casgliadau o eitemau sengl, a oedd yn 112 y mis ar gyfartaledd yn y gorffennol, bellach yn 79 y mis ar gyfartaledd.
Yn amodol ar y broses o wneud penderfyniadau, rydym yn croesawu’r cynnig hwn fel ffordd bosibl o wneud defnydd synhwyrol o’r safle”
sylw ar yr adroddiad yma