Gyda’r coed yn diosg eu gwisgoedd coch a’r tymheredd yn gostwng, mae’n Amgueddfeydd Cenedlaethol yn paratoi at y gaeaf a dathliadau’r Nadolig, gan gynnig rhaglen o weithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Dyma flas o beth fydd yn digwydd …
Ar 6 a 7 Rhagfyr bydd cyfle i ailgylchu a chreu addurniadau ecogyfeillgar yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, neu os yw’n well gennych chi addurniadau mwy traddodiadol, bydd gweithdai i deuluoedd ar 20 a 21 Rhagfyr. Gall y plant lleiaf liwio tra bod ymwelwyr hŷn yn rhoi cynnig ar wnïo neu greu pom-poms papur.
Gallwch fwynhau diwrnod llawn hwyl i’r teulu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr, a rhoi cynnig ar weithgareddau crefft, canu carolau, crwydro’r coridorau a bydd cyfle i’r plant gael llun gyda Siôn Corn – a bydd pob un sydd wedi bihafio drwy’r flwyddyn yn cael anrheg fach.
Os ydych chi wedi cael digon ar ddathliadau Nadolig traddodiadol bydd cyfle i ddysgu am Saturnalia, dathliadau canol gaeaf y Rhufeiniaid, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion ar 13 Rhagfyr . Bydd dirgelwch dieflig sy’n addas i bawb, ac mae’r amgueddfa yn gado cyfle gwych i ddysgu am arferion a thraddodiadau Saturnalia – roedd yn amser i wledda a rhoi anrhegion, i chware gemau a mwynhau!
Bydd dathliadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn fwy traddodiadol, gan gynnwys y goeden Nadolig yn y brif neuadd. Ar ddydd Iau 18 Rhagfyr am 2pm mae côr staff Amgueddfa Cymru yn eich gwahodd i fwynhau canu carolau Nadolig gyda mins pei a gwin y gaeaf i ddilyn.
Mae naws unigryw ac arbennig y Nadolig wedi ysbrydoli nifer o awduron dros y blynyddoedd a gwelwn themâu caredigrwydd, maddeuant, cariad anhunanol a haelioni mewn llyfrau i blant ac oedolion. Gall plant ac ymwelwyr o bob oed fwynhau crefft Siôn Corn a’i ffrindiau yn adrodd straeon tymhorol hoff. Cynhelir y cylch stori am 11am, 1pm a 3pm yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru bob penwythnos hyd at y Nadolig, a bydd sesiynau 11am ar ddydd Sadwrn yn Gymraeg. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw am £12 y plentyn sy’n cynnwys un oedolyn a chostau archebu.
Bydd yr amgueddfeydd ar agor dros yr ŵyl, heblaw am 24, 25 a 26 Rhagfyr, ac 1 Ionawr.
Mae mwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau’r gaeaf ar wefan yr Amgueddfa Genedlaethol.
sylw ar yr adroddiad yma