Yr Hen Lyfrgell yn croesawu Huw Edwards
Gyda holl gynnwrf (shum mishtake surely: Ed) etholiad y Cynulliad, mae canol Caerdydd yn frith o newyddiadurwyr yn holi gwleidyddion, arbenigwyr a’r cyhoedd am yr ornest – ac am berfformiad ein gwleidyddion dawnus (anoddyr mishtake surely: Ed).
Yn eu plith, fe welwyd angor-berson newyddion y BBC, Huw Edwards, yn mwynhau egwyl fach tawel a phrin, yng nghaffi’r Hen Lyfrgell.
Gofynais iddo am ei farn am ein canolfan iaith newydd.
Atebodd ei fod yn meddwl fod y ganolfan yn syniad ardderchog – ac ei fod yn hen bryd i brif-ddinas Cymru gael cyrchfan o’r fath. Cafodd groeso cynnes iawn gan staff y caffi, meddai, a braf oedd gweld gymaint o Gymry Cymraeg yn dod yno i fwynhau’r cyfle i gyfarfod ffrindiau a mwynhau sgwrs dros paned.
‘Roedd Huw yn canmol y coffi (‘Ardderchog!’ meddai) ac, er na chafodd amser i fwyta, gallai weld fod y fwydlen yn cynnig prydau diddorol a blasus yr olwg.
Ei gyngor ef i Bobl Caerdydd?
“Dewch i’r Hen Lyfrgell! Mae’n wych!”
sylw ar yr adroddiad yma