Mae Guto Lloyd-Percy wrth ei fodd gyda chaffi newydd wrth ymyl Parc Fictoria
Mae’n wyliau haf ac ar ddiwrnod chwilboeth arall yng Nghaerdydd fe es i Barc Fictoria am gwpwl o oriau yn y bore. Roedd gen i ffansi hufen iâ ond roedd y ciw i’r caffi sy’n gwerthu hufen iâ yn y parc bron yn cyrraedd y pwll padlo! Yn lwcus fe wnaeth fi a Dad ddod ar draws Fablas, caffi a ‘gelateria’ a oedd dros y ffordd i’r parc sydd yn gwerthu hufen iâ. Felly pan oedd fi a Dad ar ein ffordd adref fe aethon ni i weld be oedd hi fel tu fewn.
Roedd hi’n neis ac yn cwl tu fewn a doeddwn i ddim yn credu faint o hufen iâ oedd yno! Yn y diwedd ar ôl rhyw ddeng munud o edrych o gwmpas dewisais côn dau sgwp o flas cookies & cream a bubblegum. Roedd yr hufen iâ yn edrych yn flasus ond dydw i ddim hyd yn oed yn gallu dechrau disgrifio pa mor flasus oedd hi! Cafodd Dad hufen iâ blas mafon a fe eisteddon ni tu allan i’r caffi i’w bwyta. Roedd yn hyfryd a roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi gwneud dewis da.
Es i nol i Fablas y diwrnod wedyn gyda fy ffrind Michael a chefais i hufen iâ blas toffee crunch a sea-salted caramel oedd yn neis hefyd. Cafodd Michael un blas coffi, wedyn daeth Mam a chafodd hi hufen iâ blas mascarpone & caramelised fig oedd yn ardderchog.
Wnes i holi ers faint mae’r caffi wedi bod ar agor a fe ddywedodd y ddynes tua tri mis a hanner. Doeddwn i ddim yn gallu credu fy mod i heb weld y siop hyfryd hyn o’r blaen! Wedyn aethom ni i’r parc i chwarae bach o bêldroed.
Dwi’n gobeithio ymweld â Fablas yn fuan iawn – boed glaw neu hindda!
Mae Guto ym Mlwyddyn 5 yn Ysgol Pwll Coch.
Fablas 597 Cowbridge Road East CF5 1BE 029 2056 5871
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Fablas neu dilynwch nhw ar Twitter @fablasicecream
sylw ar yr adroddiad yma