Bu Huw Onllwyn yn siarad gyda Alex Jones yn Tafwyl heddiw ma..
Un o lysgenhadon Tafwyl 2014 yw un o ser disgleiriaf y cyfryngau torfol, sef Alex Jones (sy’n cyflwyno’r One Show ar y BBC). Mae’n gefnogol iawn i’r Gymraeg ac i’r wyl ond, o glywed fy mod ‘ar y maes’, mynnodd fy ngweld yn ei ystafell breifat yn nhwr y castell, cyn iddi gychwyn ar ei dyletswyddau llysgenhadol.
Wrth gwrs, fel gwr bonheddig, fe gytunais i newid f’amserlen prysur Tafwylaidd, a dringo grisiau niferus a throellog y twr uchel. Ac, yn wir, dyna lle ‘roedd Alex yn aros amdanaf.
Edrychodd i’m llygaid.
‘Helo Alex!’ sibrydais.
‘Pwy y chi?!’ atebodd Alex ‘Help! Security!!!’
Ychydig yn hwyrach, wed i mi esbonio fy mod yno ar ran Pobl Caerdydd, cefais fy ryddhau o’r gell ddu yng nghrombil y castell – ac fe gytunodd Alex i wneud cyfweliad bach ‘da fi ar gyfer y wefan.
A dyma fe.
Penderfynais anwybyddu unrhyw agenda wleidyddol gywir, a gofyn tair set o gwestiynau. Un set o ddiddordeb yn bennaf i fenywod; un set ar gyfer dynion – ac un cyffredinol.
A) Cwestiynau o ddiddordeb i fenywod:
Huw: Pwy sy’n gwneud eich gwallt?
Alex: Dynes o’r enw Esther, sy’n dod i’r stiwdio cyn y One Show. Dyw hi ddim ar staff y BBC.
Huw: Pa golur wyt ti’n gwisgo?
Alex: Amrywiaeth, gan gynnwys Mac, Chanel a phethau rhatach, megis Rimmel.
Huw: Pa ddillad wyt ti’n mwynhau eu gwisgo?
Alex: Pethau o’r stryd fawr yn bennaf, megis Zara (eithaf tipyn o fanna) a TopShop. Ar gyfer digwyddiad mwy posh, rhywbeth o Sandro neu Maje.
Huw: Sut wyt ti’n cadw’n heini?
Alex: Rhedeg ddwywaith yr wythnos. Cerdded i’r gwaith o bryd i’w gilydd (8 milltir) a dau sesiwn o yoga Bikram pob wythnos.
Huw: Wyt ti’n bwyta’n dda?
Alex: Wrth gwrs! Bwyd iach a digon o lysiau. Bwyta ‘chydig o bopeth.
Huw: A fyddet ti, felly, yn hapus i fwyta bag enfawr o Dorritos wrth wylio’r World Cup?
Alexs: Na!
Huw: Pa bersawr wyt ti’n gwisgo?
Alex: Rwy’n ffond o Chanel, gan gynnwys Mademoiselle. Weithiau rwy’n gwisgo Molecule.
Huw: Rwy’n defnyddio ‘Chanel Allure’ weithiau.
Alex: (edrych yn hollol unimpressed) zzzz
Huw: Beth sy’n gwneud cartref da?
Alex: Y bobl. Teulu a ffrindiau, a’r mynd a’r dod. Pobl yn galw ac yn cymdeithasu.
B) Cwestiynau o ddiddordeb i ddynion
Huw: Beth yw dy rhif mobeil?
Alex: (ysgwyd ei phen yn nerfus, gyda ‘look of slight panic’). Dyw hwnna ddim ar gael!
Huw: Beth wyt ti’n ystyried yn ddyn delfrydol?
Alex: Digon o hiwmor; deallus – a digon tal. A ddim yn gwylio gormod o’r world cup. Byddai diddordeb mewn rygbi’n well – o leiaf byddai e’n dod ‘mlaen gyda fy nhad.
Huw: Wyt ti’n chwilio am gymar ar hyn o bryd? Neu a wyt ti’n debyg o fod yn chwilio am un yn y dyfodol agos?
Alex: Rwyf i wastad yn chwilio am gymar!
Huw: Faint o amser fyddai’n briodol i dy gymar ei gael er mwyn mynd i chwarae golff neu fynd allan gyda’i ffrindiau?
Alex: Mae’n beth iach i fagu elfen o annibyniaeth a magu diddordebau tu allan i’r berthynas. Dyw e ddim yn beth da i fyw ym mhocedi eich gilydd. O wneud pethau ar wahan, fe fydd gennych mwy i’w drafod.
C) Cwestiynau o ddiddordeb cyffredinol
Huw: Pwy oedd y gwestai mwyaf surprising ar y One Show?
Alex: Dolly Parton. Roedd hi mor hyfryd a naturiol, yn agos atoch chi, gyda’i thraed ay y ddaear. A digon o hiwmor self-depreciating.
Huw: Beth yw’r pethau gorau a gwaethaf am fyw yn Llundain?
Alex: Y pethau gorau: rhywbeth newydd pob dydd, bron yn amhosib bod mewn sefyllfa efo dim byd i’w wneud. Mae’n ddinas bert a chosmopolitan. Mae ‘na fwyd da a digon o theatrau i’w mwynhau. Rwy’n hoff o fwytai Bob Ricard , Odettes (lle Bryn Williams) a Little Italy.
[Pethau gwaethaf: anghofiodd y ddau ohonom am yr angen i ateb hwn!]
Huw: Uchafbwynt y deuddeg mis diwethaf
Alex: Yn sicr, dringo clogwyn ‘Moonlight Buttress’ ym mis Mawrth. Rwy mor falch i mi wneud hwnna – a ‘dwi ddim yn meddwl y gwnaf unrhywbeth cystal fyth. Codwyd £1.8 miliwn i Sport Relief. Nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn llwyddo, hyd nes i mi weld diwedd y climb. Hyd yn oed dwy awr cyn gorffen dringo, cefais sawl braw a meddwl fy mod yn mynd i gwympo – wrth i wahanol ddarnau o’r offer ddechrau dod yn rhydd.
Huw: Faint o ddylanwad wyt ti’n cael o ran pwy sy’n ymddangos ar y One Show?
Alex: Eithaf tipyn. ‘Da ni’n cyfarfod i drafod pwy i’w gwahodd ar i’r rhaglen a, fel arfer, rwy’n hapus iawn ‘da’r dewisiadau.
Huw: Rwy’n dda yn dweud straeon digri. Oes modd i mi ymddangos ar y One Show?
Alex: Falle ddim.
F’argraffiadau: dynes hyfryd, yn llawn hwyl. Yn anffodus i Alex, wrth gwrs, er fy mod yn llawn hiwmor, yn ddeallus ac yn ddigon tal, rwyf eisoes yn briod.
Gwell lwc tro nesaf, Alex!
sylw ar yr adroddiad yma