Her yr oriau brig yr ail noson

12 Mai 2014

Mae Huw Onllwyn wedi ymrwymo i wylio rhaglen ar S4C pob noson, am wythnos, yn dilyn pryder Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, am y gostyngiad o 17% yn nifer y bobl sy’n gwylio S4C yn ystod yr oriau brig. 

Noson dau: 8.30pm Nos Sul 11 Mai: Requiem

I loves a good requiem, me.

Na – yn wir i chi, ‘does dim byd gwell na requiem go dda i godi ysbryd hen ddyn blin fel fi. Mae gwrando (ar fy hi-fi newydd, lush) i requiems Faure neu Brahms yn f’atgoffa o’r teimlad o heddwch a bodlondeb sydd ar gael i ddyn wrth:

  • syllu dros y mor a gweld yr haul yn machlud, ar noson dawel;
  • godi’n gynnar ar Wyl San Steffan (Boxing day) i lonyddwch ty a fu’n gartref i ddathliadau teuluol y Nadolig;
  • ddringo mewn i Jaguar S-Type unrhywle, unrhywbryd.

‘Roedd o ddiddordeb i mi, felly, i weld S4C yn hysbysebu’r gyfres newydd, Requiem. Dyma gyfle, nid yn unig i fwynhau clywed y gerddoriaeth, ond hefyd i ddysgu ychydig am y genre. Ar yr un pryd, fodd bynnag, roedd gennyf deimlad o nerfusrwydd. Rwy’n hoffi requiems gymaint, fel nad oeddwn am weld rhaglen amdanynt a oedd yn ddiflas, anniddorol, rhad yr olwg, neu di-glem.

Well…I absolutely loved it.

Yr ail raglen yn y gyfres oedd hon, ac fe aeth a ni ar daith o requiems Johannes Ockeghem (15ed ganrif) hyd at waith Johannes Brahms (1833 – 1897). ‘Roedd y profiad o wylio’r rhaglen fel gorwedd mewn bath twym, gyda swigod lafant L’Occitane, gwydred bach o siampen a petalau rhosod coch yn nofio ar wyneb y dwr. (Ceisiwch, da chi, feddwl am Sandra Bullock neu George Clooney wrth ddarllen hwn, yn hytrach nag awdur yr erthygl).

Cyflwynwyd hanes datblygiad y requiem mewn dull diddorol – a phriodol hamddenol – gan gysylltu’n llyfn o un cyfnod i’r nesaf – ac o un cyfansoddwr i’w olynwyr. Fe lwyddodd cynhyrchwyr y rhaglen i gael gafael ar ‘big hitters’ byd cerddoriaeth (megis Elin Manahan Thomas a Bryn Terfel) a chrefydd (megis Rowan Williams, gyda’i farf a’i wallt hynod o ddiddorol). Braf oedd eu gweld yn gwrando i ambell i requiem tra’n eistedd yn heddwch eu lolfeydd chwaethus, yn gwrando ar y gerddoriaeth cyn ymateb iddo, megis: ’Yn dilyn gwrando ar hwnna gallaf farw’n hapus’.

Roedd y ffilmio a’r safon cynhyrchu yn arbennig o dda – ac yn siwtio testun y rhaglen i’r dim. Araf. Llonydd. Ysbrydol. Prydferth. Roedd cyflwynydd y rhaglen (Mali Harries), hyd yn oed, yn berffaith ar gyfer y darn – gyda’i llais addfwyn a thawel yn creu darlun yn fy mhen ohoni’n arnofio ar rhyw bwll llonydd, fel Ophelia Syr John Everett Millais.

Ac roedd y gerddoriaeth, wrth gwrs, yn hyfryd iawn.

Dyma i chi beth yw darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar ei orau. Gall hwn gystadlu efo cynnyrch unrhyw raglen gan unrhyw gwmni darlledu, unrhyw le yn y byd. Mae’n haeddu rhyw fath o wobr, yn sicr.

Os oes gennyf unrhyw feirindaeth, wel, dyma fe: hoffwn weld mwy. Fe fyddai’n dda o beth pe byddai modd i S4C sicrhau fod mwy o wybodaeth gefndirol ar wefan y sianel. Megis ychydig mwy am hanes requiems; pa gorau oedd yn canu ar y rhaglen; pwy oedd yn eu harwain – a pha requiems a berfformiwyd. Mae cynulleidfaoedd yn disgwyl hynny fwy fwy mewn oes aml-gyfrwng. Hefyd, mae angen marchnata hwn yn well, eto gan ddefnyddio’r cyfryngau torfol. (C’mon! Os oes modd i mi gofrestru fy nghyfeiriad e-bost ar wefan Menter Iaith Caerdydd, gan nodi pa fath o weithgareddau yr hoffwn wybod amdanynt, pam nad oes modd i S4C ddarparu gwasanaeth tebyg?)

Braf, hefyd, fyddai gweld rhywbeth tebyg am ddatblygiad mathau eraill o gerddoriaeth (megis jazz) ond, yn y cyfamser, rhoddaf 10 allan o 10 i S4C am hwn (a nodwch, os gwelwch yn dda, nad wyf yn fuddy duddy sydd ond yn ymddiddori yn y ‘pethe’ – beth bynnag yw rheiny).

Sgor y biben crack: hollol wag (sy’n beth da).

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

gaynor yn dweud:

joies i hwn hefyd, er ni welais y rhaglenni ( un ohonnynt) – dyle ti sgwenu adolygiadau – cystal a rhai gorau’r broadsheets was!

Huw Onllwyn Jones yn dweud:

Gosh!

Ti’n garedig iawn!