gan Huw Onllwyn
Mae Huw Onllwyn wedi ymrwymo i wylio rhaglen ar S4C pob noson, am wythnos, yn dilyn pryder Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, am y gostyngiad o 17% yn nifer y bobl sy’n gwylio S4C yn ystod yr oriau brig.
Noson tri: 8.25pm Nos Fawrth 13 Mai: Y Goeden Faled
Hysbyseb S4C: Yr wythnos hon, cystadlu a charu sy’n cael sylw Cerys Matthews. Bydd Dr Meredydd Evans, yn trafod y traddodiad canu cystadleuol, a chawn hefyd glywed fersiwn unigryw Cerys o ‘Oes Gafr Eto’. I Ynys Môn ac Ynys Llanddwyn, cartref Dwynwen, Nawddsant Cariadon Cymru, yr aiff Cerys nesaf, wrth fynd ar drywydd y gân serch llawn hiraeth, ‘Titrwm Tatrwm’.
Saethwch fi.
Plis.
Sgor y biben crack: roedd angen dwy biben llawn (sy’n beth gwael).
beth yw hyn ? dim adolygiad? pa? dwi yn dechrau teimo fel Kathy bates yn y film Misery…. beth yw’r rheswm dwi wedi siomi!!