Hen bryd i fysiau Caerdydd fod yn ddwyieithog

19 Mawrth 2014

Gan Ioan Kidd 

Braf oedd cael bod ymhlith y 140 a ddaeth ynghyd yn Neuadd y Ddinas ddechrau’r mis i drafod dwyieithrwydd yn y brifddinas. Brafiach byth – ac arwydd calonogol o’r modd mae nifer siaradwyr Cymraeg y ddinas wedi tyfu yn ystod y deng mlynedd diwethaf – oedd gweld yn fuan ar ôl imi gyrraedd mai ychydig iawn o wynebau cyfarwydd oedd yno. Ugain mlynedd yn ôl, byddwn i wedi adnabod eu hanner, heb os.

Cyfarfod oedd hwn a drefnwyd gan Gyngor Caerdydd i glywed barn unigolion a phartneriaid perthnasol ynglŷn â sut i hyrwyddo’r Gymraeg a ‘(g)wireddu’n gweledigaeth ni o gynyddu dwyieithrwydd yn y ddinas.’ Yn hynny o beth, tipyn o ryddhad oedd clywed bod gan y cyngor weledigaeth o gwbl parthed yr iaith achos teg fyddai dweud (o gofio’r brwydro fu dros sefydlu ysgolion Cymraeg, i enwi ond un ymgyrch) mai digon niwlog ac anghyson fu unrhyw gynnydd hyd yn hyn! Cynrychiolwyr busnesau, mudiadau, cymdeithasau ayb oedd y rhan fwyaf a ddaeth ynghyd, ond roedd aelodau cyffredin o’r cyhoedd yno hefyd a minnau yn eu plith.

Cafodd y diwrnod ei arwain yn hynod broffesiynol gan Ashok Ahir o gwmni Mela a chafwyd cyfraniadau difyr a hyderus gan grwpiau ysgol ac ysgolheigion fel ei gilydd. Syndod o’r mwyaf i mi oedd dysgu bod y Gymraeg yn fyw ac yn weddol iach ar strydoedd y brifddinas hyd yn oed yn y 1860au. Roedd pob un o’r cyflwyniadau’n fodd i roi hynt gyfnewidiol yr iaith dros y blynyddoedd yn ei chyd-destun dinesig. Go brin bod welydd a phileri crand y neuadd ysblennydd wedi clywed cymaint o Gymraeg ers tro byd.

Tua diwedd y bore, cafwyd anerchiad gan y Prif Weinidog. Soniodd am strategaethau, heriau, ei awydd i weld y Gymraeg yn ffynnu ac am gyfrifoldeb siaradwyr yr iaith i’w defnyddio’n gyson ac i’w throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Anodd fyddai peidio â chytuno â Carwyn Jones. Yn yr un modd, ni allwn amau ei ddiffuantrwydd. Yna, wedi dau gwestiwn penodol o’r llawr, fe ddiflannodd i arwain y wlad, ei gyfraniad at y Sgwrs Fawr drosodd am y tro.

Y gwn mawr nesaf i annerch y gynhadledd oedd y Comisiynydd Iaith. Soniodd Meri Huws hithau am strategaethau, heriau a chyfrifoldeb. Soniodd hefyd am fuddugoliaeth arwyddocaol iawn. Y bore hwnnw, cawsai gadarnhad bod ei hymgais i herio Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) yn yr Uchel Lys wedi llwyddo a bod y llys hwnnw wedi dyfarnu bod penderfyniad NS&I i ddod â’i gynllun iaith i ben yn anghyfreithlon. Buddugoliaeth hanesyddol yn wir, a rhaid canmol y Comisiynydd a’i thîm am fod mor drwyadl ac mor barod i ddefnyddio’r gyfraith pan fo angen i sicrhau hawliau siaradwyr y Gymraeg. Mae’n gadarnhad pellach bod Oes y Deinosoriaid yn prysur ddirwyn i ben ac yn rhybudd i unrhyw ddeinosoriaid sy’n dal i lercian yng nghorneli tywyll cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus eraill ar hyd y wlad!

Clustnodwyd talp go fawr o’r diwrnod i awgrymiadau o’r llawr gyda chynadleddwyr yn cael eu hannog i gynnig syniadau ymarferol y gallai’r cyngor eu hystyried er mwyn gwireddu ei weledigaeth o Gaerdydd ddwyieithog. Cafwyd degau ar ddegau o awgrymiadau cyffrous. Dim rhyfedd felly fod y Cynghorydd Huw Thomas yn wên o glust i glust. Wedi’r cwbl, roedd ’na gytgord a chytuno heb ei debyg, ond roedd hynny i’w ddisgwyl mewn neuadd yn llawn pobl oedd yn bleidiol i’r iaith. Gallwn fentro mai o hyn ymlaen y bydd gwaith anoddaf y Cynghorydd Thomas yn dechrau wrth iddo geisio dwyn perswâd ar rai o’i gyd-gynghorwyr i weithredu’r awgrymiadau a ddaeth i law. Ond un peth sy’n sicr, mae newid yn anochel, ac os bydd llusgo traed cafwyd sicrwydd y bydd swyddfa’r Comisiynydd Iaith yn barod i fynd ar ôl unigolion neu fudiadau ystyfnig.

Tua diwedd y prynhawn, pan oedd panel o bedwar yn gwrando ar rai o’r awgrymiadau o’r llawr ac yn cynnig eu hymateb, cyfeiriwyd at ambell ddeinosor oedd yn dal i greu trafferth o ran eu parodrwydd i roi chwarae teg i’r Gymraeg. Dyna pryd y cefais fy atgoffa o dalcen caled amlwg iawn, un sydd i’w weld ar strydoedd y brifddinas bob awr o bob dydd: Cardiff bus/bws Caerdydd. Dros y blynyddoedd rwyf wedi anfon mwy nag un llythyr at y cwmni hwn yn gofyn pryd maen nhw’n mynd i ddarparu gwybodaeth pen taith ar flaen eu bysus yn Gymraeg e.e. Canol y Ddinas, Trelái a’r Eglwys Newydd ayb. Hyd yma, mae’r cwmni wedi gwrthod ystyried hyn er eu bod yn cynnig gwybodaeth sydd fwy neu lai’n gwbl ddwyieithog y tu mewn i’w cerbydau, sy’n dangos eu bod yn cydnabod bodolaeth yr iaith. Mae tipyn o waith ar ôl i’w wneud i gynnwys y Gymraeg ar eu harosfannau, er hynny.

Cyngor Caerdydd biau Cardiff bus/bws Caerdydd. Pam felly nad yw’r cyngor yn rhoi pwysau arnyn nhw i fabwysiadu polisi dwyieithrwydd llawn? Byddai hynny’n hwb enfawr i’r Gymraeg ac yn gam sylweddol tuag at wireddu’r weledigaeth o ddinas ddwyieithog, fel Brwsel a Barcelona. Byddai hefyd yn gweithredu dymuniad y Prif Weinidog yn ei araith am i’r Gymraeg fod yn ‘fywiog a gweladwy’. Ar draws talpiau mawr o’r Cyfandir, amlieithrwydd yw’r norm ac mae’n digwydd heb orfod brwydro am bob dim. Felly y dylai fod yma yng Nghymru hefyd, ond mae gormod o bobl, a siaradwyr Cymraeg yn eu plith, yn rhy barod i drin dwyieithrwydd fel rhyw gonsesiwn bach i’w ildio gan y mwyafrif – pan fydd yr hinsawdd economaidd yn caniatáu efallai – yn hytrach na hawl. Gydag agwedd o’r fath, mae perygl i bob un ohonon ni golli’r bws.

 Llun ©Ruth Sharville

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Siôn yn dweud:

Mae bysiau (a trams) prifddinas Iwerddon, Dulyn, yn rhoi enwau’r lleoliadau yn y ddwy iaith ar flaen y bws. Hynny yw, maer enw yn newid o’r enw Gwyddeleg i’r Saesneg ac yn ôl pob rhyw 5 eiliad.

Mae’r un system yn wir am rhai cwmnioedd bysus yn y Gorllewin – Arriva dwi’n meddwl. Dydy e ddim yn anodd. Dydy ddim yn costio dim. A dweud y gwir, mae’n haws yng Nghaerdydd nac yn Nulyn achos mai Cymraeg yn unig yw enw’r rhan fwyaf o’r maesdrefi.

Ioan yn dweud:

Yn union, Siôn – cytuno’n llwyr. Mae’n hawdd ac ni fyddai’n costio dim i’r cwmni. Mae’r dechnoleg ar gael – y cyfan sydd ei angen yw’r ewyllys a newid o ran agwedd. Os yw Bws Caerdydd yn poeni y byddai datblygiad o’r fath yn digio’r mwyafrif di-Gymraeg, mae eisiau iddyn nhw ailfeddwl. Mae’r rhan fwya helaeth o’n cyd-ddinasyddion yn bobl resymol iawn ac yn falch o’r iaith. Y rhai ddylai deimlo’n ddig yw’r siaradwyr Cymraeg, a hynny am fod y sefyllfa sy’n bodoli ar hyn o bryd yn hollol annigonol a sarhaus. Mae’n hen bryd i swyddogion a chynghorwyr a rhai tebyg ddangos arweiniad neu mi fydd pobl yn dechrau danto.