Helfa drysor yn amlygu’r gorau a’r gwaetha

4 Gorffennaf 2015

gan Ciron Gruffydd 

Pan o’n i’n blentyn yn Eifionydd, byddai helfa drysor yn cael ei drefnu pob hyn a hyn.

Atgofion cymysg sydd gen i o’r helfeydd hynny. Mi fyswn i, fy chwaer a fy rhieni’n neidio i’r car yn sionc a llawn gobaith cyn gyrru am oriau o amgylch ffyrdd bach y fro yn chwilio’n ofer am gliw oedd wedi ei hen lyncu gan y dail a’r brwgaij.

Oedd, roedd ‘na chwerthin, ond roedd ‘na dipyn o weiddi hefyd ac erbyn i ni gyrraedd tafarn wledig i ddarganfod, unwaith yn rhagor, ein bod ni wedi ennill lemon am ddod yn olaf un, byddai ambell ddeigryn wedi cael ei dywallt yn ogystal.

Ond ers pedair blynedd bellach, dw i wedi bod yn mynd ar helfa drysor tra gwahanol i’r rhai oeddwn i wedi cael fy magu gyda nhw.

Cymdeithas Carnhuanawc yw trefnwyr yr helfa drysor hanesyddol sy’n cael ei chynnal fel rhan o wythnos Tafwyl pob blwyddyn. Mae’r trefnwyr fel arfer yn dewis un ardal o’r Brifddinas – canol y ddinas, Cathays, y Rhath – ac yn anfon y timau allan gyda 10 o gliwiau i geisio dod o hyd i’r atebion.

Trwy’r helfa, dw i wedi dysgu llawer am y ddinas a’i thrigolion dros yr oesoedd. Ac wedi wyth mlynedd o fyw yng Nghaerdydd, eleni oedd y tro cyntaf i mi ddod draws tafarn sydd â parot yn byw ynddi’n Y Rhath.

Parot mewn pyb – pa mor wych ‘di hynny? – a does gen i neb na dim ond yr helfa drysor i’w ddiolch.

Wrth gwrs, mae dau newid sylfaenol rhwng yr helfa drysor yma a’r rhai o fy mhlentyndod. I ddechrau, mae hi ar droed, ac fel rhywun sydd wedi byw yr ochr orllewinol yr afon trwy gydol fy amser yng Nghaerdydd, mae’n ffordd arbennig o weld ardaloedd llai cyfarwydd.

Yr ail newid mawr yw mod i’n gwneud yr helfa drysor yma gyda ffrindiau, nid teulu. Oherwydd hynny, dwi heb weld neb yn crio, eto.

Ond beth sy’n fy nghyfareddu i fwyaf yw pa mor gystadleuol mae pobl yn mynd. Dwi heb weld dim byd tebyg yn fy myw – dim hyd yn oed mewn gêm Monopoli ar ddiwrnod ‘Dolig.

Dwi ‘di gweld pobl sy’n ddim yn credu mewn ymarfer corff yn rhedeg i fyny ac i lawr strydoedd yn chwilio’n lloerig am enw tŷ sy’n gysylltiedig ag Efrog Newydd.

Dwi ‘di gweld pobl sydd fel arfer yn cŵl braf yn troi’n biws tra’n ceisio gwneud pen a chynffon o gliw anodd.

Dwi fy hun, a rhaid i chi nghoelio i nad ydw i’n falch o hyn, wedi gwthio merch o’r ffordd wrth drio cyflwyno f’atebion i’r trefnwyr o’i blaen hi.

Anghofiwch eich cwrteisi, gadewch eich moesau wrth y drws. Mae’r helfa drysor yma’n gwneud i’r Hunger Games edrych fel gêm o bowls.

Ond mae ein dyfalbarhad wedi talu ac eleni, wedi pedair blynedd o geisio, daeth ein tîm ni’n gyntaf.

Y flwyddyn nesaf, bydd yr helfa yn cael ei chynnal yn Eglwys Newydd. Dych chi’n ddigon dewr i drio?

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma